Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisiau denu mwy o bobol i’r theatr Gymraeg yng Nghymru.
Er mwyn gwneud hyn maen nhw’n lansio sgwrs newydd gyda sectorau allweddol i drafod sut mae denu mwy o gynulleidfa.
Roedd ymgynghoriad diweddar y Cyngor yn dangos bod llawer o gefnogaeth i gynllun ‘Er Bydd Pawb’ – sy’n gobeithio cynyddu’r gynulleidfa gan 10%.
“Rydym ni am ymestyn y sgwrs i’r sector theatrau a lleoliadau, i weld sut mae gwireddu hyn,” meddai Henry Rees, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru.
“Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd”
Mae Sian Tomos, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru eisiau gweld cydweithio rhwng theatrau, lleoliadau, cwmnïau cynhyrchu a gweithiwyr creadigol yng Nghymru i geisio siapio’r cynllun.
“Cyfrifoldebau ar y cyd yw sefydlu ein gwerthoedd cyffredin, datblygu partneriaethau newydd, cael syniadau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chreu’r amgylchedd i newid,” meddai Sian Tomos.
“Rydym ni am gael gwaith sy’n annog teuluoedd, plant a phobl ifanc i sylweddoli bod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn teyrnasu dros sefyllfaoedd bob dydd.”
Bydd y Cyngor yn buddsoddi mewn mentrau i ddatblygu sgiliau’r gweithwyr creadigol fydd yn gweithio gyda nhw trwy gyfrwng y Gymraeg.
Miliwn o siaradwyr
Yn ôl Henry Rees mae tystiolaeth yn awgrymu bod iaith yn ffynnu drwy’r celfyddydau a chreadigrwydd.
“O ganlyniad rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi defnydd a datblygiad y Gymraeg yn ein cymunedau, ein lleoliadau a’n celfyddydau,” meddai.
“Rydym ni’n ystyried hyn yn gyfraniad hanfodol i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n angenrheidiol hefyd i wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau Dyfodol Cymru.”