Bu farw’r actores, Audrey Mechell, yn 89 oed.
Yn enedigol o Fodedern, Ynys Môn, fe dreuliodd ei hoes yn ardal Llanfechell yng ngogledd yr ynys.
Yn ôl Richard Williams, a ddaeth i’w nabod trwy berfformio, roedd Audrey Mechell “wedi rhoi cyfle i lawer” ac wedi “rhoi ei byd i’r ddrama yn lleol”. Roedd hi hefyd yn un o gymeriadau mawr y Fam Ynys.
Bu’n cynnal sawl cwmni drama yng ngogledd Cymru – yr enwocaf oedd Cwmni Merched – a bu’n teithio o gwmpas theatrau’r wlad yn perfformio. Roedd ei bryd bob amser ar lefaru clir, a dweud stori.
Roedd hefyd yn adnabyddus am ei gwaith ar ffilmiau a rhaglenni, gan gynnwys rhaglen Minafon yn yr 1980au, a’r ffilm Madam Wen.
Yn ogystal â’i gwaith llwyfan, roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd ac o Orsedd Môn, ac roedd ei hoffter a’i balchder yn ei dillad wedi ei gwneud yn destun eitemau ar raglenni’n trin ffasiwn.