Bydd sioe wedi’i selio ar un o gerddi hynaf yr iaith Gymraeg yn cael ei chynnal yn ninas Abertawe ym mis Medi.
Testun sioe ‘Nawr yr Arwr’ yw ‘Y Gododdin’, ac mi fydd yn mynd i’r afael â’r gerdd trwy gyfeirio at straeon rhyfel trwy hanes Cymru.
Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn ardal Neuadd y Ddinas/Neuadd Brangwyn, ac yn cael ei chynnal rhwng Medi 25 a Medi 29.
Mae’r prosiect yn rhan o raglen ‘14-18 NOW yng Nghymru’, sef rhaglen gelfyddydol y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.
Yr artist amlddisgyblaeth, Marc Rees, sy’n arwain y prosiect, ac ymysg yr unigolion sydd wedi cyfrannu at y sioe mae’r cyfansoddwr, Owen Morgan Roberts, a’r awdur, Owen Sheers.
“Adlewyrchu hanes cyfoethog”
“Mae Nawr Yr Arwr/Now The Hero yn adlewyrchu hanes cyfoethog Abertawe ac yn bwrw goleuni ar gyfres o ddarluniau sydd wedi’u hanghofio i ryw raddau,” meddai Marc Rees.
“Mae hi’n sioe sy’n cyfleu neges o dristwch mawr yn ystod profiad unigryw y bydd modd ymgolli ynddo’n llwyr.”