Siw Hughes a Gwyn Vaughan Jones yn Hollti (Llun: Mark Douet, Theatr Genedlaethol Cymru)
Mae drama’n “gyfrwng pwerus” i drafod unrhyw bwnc, yn ôl y dramodydd o Fôn sydd wedi mynd i’r afael â’r dadleuon o blaid ac yn erbyn codi ail atomfa niwclear, Wylfa Newydd, ym Môn.
Mae Manon Wyn Williams yn ddarlithydd sgriptio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor ac yn wreiddiol o Rosmeirch, Sir Fôn.
“Fel hogan o Fôn, dw i’n llwyr ymwybodol o’r dadleuon o blaid ac yn erbyn Wylfa Newydd a phwysigrwydd bod yna drafodaeth fanwl am y maes – mae o’n benderfyniad mawr iawn,” meddai wrth golwg360.
“Nid o reidrwydd ein cenhedlaeth ni y bydd o’n effeithio, ond y cenedlaethau sydd i ddod felly mae yna bwysau mawr ar y genhedlaeth hon i wneud y penderfyniad iawn o ran dyfodol yr ynys a’i phobol.”
Melinau gwynt – “hen hanes”
Daeth syniad y ddrama Hollti i fod wedi i Sarah Bickerton a Marred Glynn Jones gynnig creu cynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn trafod y dadleuon o blaid ac yn erbyn melinau gwynt.
“Ond wrth ddechrau cyfweld ag unigolion, dyma ni’n sylwi bod y ddadl am felinau gwynt yn hen hanes erbyn hyn ac mai’r pwnc llosg ar y funud yn Sir Fôn oedd y ddadl o blaid ac yn erbyn Wylfa Newydd,” meddai Manon Wyn Williams.
Mae Hollti yn ddrama air am air wedi i’r dramodydd godi union ddyfyniadau’r bobol y gwnaeth hi gyfweld â nhw wrth ymchwilio i’r maes.
Y cymeriadau
“Roeddwn i eisiau iddi [y ddrama] fod yn adlewyrchiad teg o’r gwahanol safbwyntiau sydd i gael ar yr ynys fel bod gennym ni gydbwysedd o ran gwahanol farn, safbwyntiau a chymeriadau o wahanol gefndiroedd,” meddai.
Esboniodd fod ynddi gymeriadau sydd wedi gweithio yn yr atomfa, ymgyrchwyr, gwleidyddion, gwyddonwyr a phobol hen ac ifanc sy’n byw yn y gymuned. Y prif themâu sy’n codi, meddai, yw’r economi, yr amgylchedd, iechyd, yr iaith a swyddi.
Drwy fynd â’r ddrama ar daith ledled Cymru mae Manon Wyn Williams yn gobeithio y bydd elfen o “addysgu a chodi ymwybyddiaeth” gan annog pobol i ymchwilio i’r maes eu hunain.
Ar daith
Cafodd Hollti ei pherfformio gyntaf yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn fis diwethaf, a bydd hi’n mynd ar daith ledled Cymru’r wythnos nesaf.
Mae’r cast yn cynnwys Siw Hughes, Gwyn Vaughan Jones, Dafydd Emyr, Sion Pritchard, Iwan Charles, Steffan Harri a Lowri Gwynne.