Mae dau gwmni theatr yng Ngheredigion wedi llwyddo i godi mwy na £2,000 i gynnal drama gerdd “uchelgeisiol a gwreiddiol” fis nesaf.
Dim ond ers tua mis y mae cwmni Theatr Troedyrhiw a Theatr Felin-fach wedi bod yn galw am gyfraniadau er mwyn sgriptio a llwyfannu Y Sioe Cneifo fydd yn rhan o Ŵyl Ddrama flynyddol yr ardal yn Nyffryn Aeron.
Esboniodd Euros Lewis, cyfarwyddwr cwmni Troedyrhiw, y bydd y sioe yn “dathlu diwylliant cefn gwlad” a’u gobaith ydy annog cymaint ag sy’n bosib i fod yn rhan o’r sioe ac i glywed y trefniadau nos Fercher nesaf yn Theatr Felin-fach.
Ychwanegodd y byddan nhw’n bwrw ati wedyn i gynnal y sioe rhwng Hydref 6 a 7 ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid – “prifddinas cneifio’r gorllewin” yn ôl Euros Lewis.
Haelioni’r gymuned
Dywedodd Euros Lewis nad oedd yn rhyfeddu at “haelioni’r gymuned” wrth gyrraedd y targed o £2,000 o fewn ychydig wythnosau a hynny wedi iddyn nhw ddefnyddio gwefan Kickstarter.
“Ry’n ni wedi defnyddio’r dechnoleg newydd i wneud rhywbeth y mae cefn gwlad yn ei wneud trwy’r amser, sef cefnogi ei gilydd,” meddai.
“Mi oedd yn braf i weld y brwdfrydedd yn lledu wrth i’r targed nesáu,” ychwanegodd.
Cneifio – ‘Diwrnod mawr’
Eglurodd Euros Lewis mai bwriad y sioe yw dathlu’r traddodiad o gneifio lle mae pobol yn tueddu i ddod at ei gilydd i helpu.
“Slawer dydd ar y ffermydd mawr fe fyddai dros hanner cant o bobol yn dod at ei gilydd i gneifio, a dwsinau o fenywod yn dod i baratoi’r bwyd – roedd e’n ddigwyddiad mawr yn yr ardal.”
“Hyd yn oed heddiw, mae diwrnod cneifio yn parhau’n bwysig,” meddai gan esbonio fod pobol yn tyrru i helpu ei gilydd i grynhoi’r defaid a thrin y gwlân.