Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon (Llun: Arwyn Roberts)
‘Tir Neb’ yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni oedd y newyddiadurwr a’r darlledwr, Lyn Ebenezer.
‘Trwy’r Drych’ oedd y testun eleni, a phryddest ar thema’r Rhyfel Mawr oedd ganddo, sef un a oedd yn adrodd hanes gwerinwr o gefn gwlad Ceredigion a anfonwyd i’r Rhyfel i ymladd yn anfoddog dros “ei wlad”.
Gosododd dau o feirniaid y gystadleuaeth y gerdd yn y dosbarth cyntaf, gydag un ohonynt yn ei rhoi’n ail i bryddest fuddugol Gwion Hallam.
Yn ôl y beirniad hwnnw, Gwynne Williams, roedd cerdd ‘Tir Neb’ yn “hen ffasiwn ar un wedd” gydag adleisiau o’r R Williams Parry a’r Cynan ifanc “ar eu gorau” ynddi. Ond eto, roedd yn “gyfoes” ac yn “siarad efo’r oes” ar yr un pryd.
Hanes Wncwl Dai
Yn ôl y bardd ei hun, cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu’r gerdd gan hanes ei ewythr (brawd ei fam), sef David Williams, Tŷ Cefen, Ffair Rhos a gafodd yn y Rhyfel Mawr – hanes oedd wedi ei “drwbli” ers pan oedd yn blentyn.
“Roedd ei lun ar wal y parlwr yn ei lifrai milwr”, meddai, “ac o’n i’n gofyn i mam bob amser i adrodd yr hanes …
“Roedd hi wedyn yn gweud wrtha’ i ychydig am ei hanes, fel yr oedd yn athro ysgol Sul ac yn godwr canu a rhyw bethe fel hyn.”
Mae’n debyg y bu rhaid i David Williams, neu ‘Dai Tŷ Cefen’, orfod ymuno â’r fyddin yn ystod y Rhyfel Mawr wedi iddo golli ei swydd fel gwas ffarm yn ardal Ffair Rhos, a hynny oherwydd bod mab y fferm yr oedd yn gweithio arno wedi dod i oed.
Cafodd ei ladd ym Mrwydr Bèthune yn 1918 a bu ei gorff ar goll am gyfnod o 6 mis cyn iddo gael ei ddarganfod a’i gladdu yng ngogledd Ffrainc.
“Fe ddo’th yn rhyw fath o obsesiwn i fi”, meddai Lyn Ebenezer eto, “ac yn y diwedd, fe ges i gyfle i weld ei fedd e yn ymyl Bèthune yn 1918.
“Dyna yw sail yr holl gerdd, sef fy mod i’n gweld ei lun e nawr, a’m llun inne yn cael ei adlewyrchu o’r gwydyr.”
Coron Eisteddfod Bont
Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y bardd o’r Bont wedi dod yn fuddugol gyda fersiwn cynharach o’r gerdd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid.
Ond ymestyniad o’r gerdd wreiddiol yw’r un a anfonodd i’r gystadleuaeth Genedlaethol eleni ac mae’n “ddwbwl yr hyd”, meddai.
“Fe wnes i ychwanegu cerdd rydd ar y dechre ac ar y diwedd, felly mae’n bell o fod yr un gerdd a’r un enillodd yn Bont – ond mae rhannau ohoni yr un fath.”
Ail ymgais am y Goron
Dyma’r eildro i Lyn Ebenezer gystadlu am y Goron Genedlaethol, a hynny wedi Eisteddfod Glynebwy yn 2010 pan gafodd ei osod yn y dosbarth cyntaf gan un o’r beirniaid, Iwan Llwyd, a fu farw’n sydyn ychydig fisoedd cyn y brifwyl a chyn rhoi ei feirniadaeth i lawr.