Josh Elton (Llun: golwg360)
Cymro Cymraeg yw enillydd y wobr gomedi amatur fwyaf yng Nghymru eleni.
Daeth Josh Elton o Abertawe i frig cystadleuaeth WUSA (Welsh Unsigned Stand-up Award) ar ddiwedd y rownd derfynol yng nghlwb Glee yng Nghaerdydd neithiwr.
Fel rhan o’i wobr, mae’n derbyn £1,000 a chyfres o gigs Saesneg ar rai o brif lwyfannau comedi Cymru.
Fe drechodd e Coral Halliwell o Gaerfyrddin, Col Howarth o Gaerdydd, Morgan Rees o Gaerdydd, Tanya Spence-Kelly o Bort Talbot a Drew Taylor o’r Rhondda.
Roedd ei set fuddugol yn trafod ei gefndir Iddewig a’i brofiadau fel cerddor stryd, gyda chaneuon comedi’n rhan bwysig o’i berfformiad.
Cafodd y noson ei chyflwyno gan y digrifwr a’r cyflwynydd radio Tudur Owen, a daeth cyfle i enillydd y wobr yn 2016, Jethro Bradley o Gaerdydd ddiddanu’r gynulleidfa wrth i’r beirniaid benderfynu pwy fyddai’n mynd â hi eleni.
“Teimlo’n grêt”
Ar ôl clywed ei enw’n cael ei gyhoeddi fel enillydd, dywedodd Josh Elton wrth golwg360 ei fod yn “teimlo’n grêt”.
“Y beirniaid yw’r bobol sy’n bwcio ar gyfer y Glee yng Nghaerdydd, ac mae’n lle grêt i wneud comedi. Roedd heno’n noson arbennig, dyw traed fi ddim wedi cyffwrdd y llawr, i ddefnyddio idiom Saesneg!”
Wrth edrych ymlaen at gael sicrwydd gigs am beth amser i ddod, dywedodd: “Fi’n trio cael unrhyw gigs fi’n gallu ac yn gwneud ‘beg, borrow, steal’ i gael gigs fel arfer. Mae cael lot o gigs trwy hwn yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr.”
Ac yntau’n berfformiwr dwyieithog, mae Josh Elton yn gweld cyfle fel enillydd y gystadleuaeth i godi ei broffil yn y ddwy iaith o hyn ymlaen.
“Fi wedi trio gwneud gigs yn Gymraeg. Mae’n galed i ddechrau oherwydd pan ti’n dechrau mewn unrhyw iaith, ti’n gorfod cael loads o gigs. I fi, y peth caled yw bo fi eisiau set wahanol yn Gymraeg, a wordplay wahanol yn Gymraeg. Fi’n dal i weithio ar y set Gymraeg – dyna’r unig siawns fydda i’n cael i fod ar y teledu’r flwyddyn yma!”
“Cystadleuaeth eithriadol o gryf”
Dywedodd enillydd 2016, Jethro Bradley wrth golwg360: “Dw i’n credu bod y gystadleuaeth eleni’n eithriadol o gryf, a gwnaeth Josh yn arbennig o dda o ystyried ei fod e mor gynnar yn yr hanner cyntaf. Roedd y gynulleidfa’n ymroddgar ond yn eitha’ tawel ar brydiau hefyd.
“Dw i wedi gweld Josh yn gigio dipyn ac wedi rhannu car gyda fe sawl gwaith, a dw i’n anghofio pa mor ifanc yw e oherwydd ei fod e mor aeddfed.”
Yn ôl Jethro Bradley, fe fydd y gystadleuaeth yn gymorth mawr i Josh Elton yng Nghymru ac yng ngorllewin Lloegr, dau le sydd â sîn gomedi arbennig o gryf.
“Dw i’n credu bod pethau mawr o’i flaen e yng Nghymru ac i raddau yng ngorllewin Lloegr, gan fod cynifer o ddigrifwyr Cymraeg yn dueddol o fynd i Gaerfaddon a Bryste, a thipyn o deithio nôl ac ymlaen dros y bont. Nid dim ond buddugoliaeth yng Nghymru yw hon.
“Mae’n gwneud tipyn i’r hyder hefyd. O ennill unrhyw gystadleuaeth, ry’ch chi’n teimlo’ch bod chi wedi cyrraedd carreg filltir, ac mae’n dda clywed eich bod chi wedi ennill rhywbeth.”