Cwmni Theatr Bara Caws sydd wedi cael y gwaith o greu cynhyrchiad gwreiddiol newydd ar gyfer Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd.
Y bwriad yw meithrin tîm o bobol ifanc i arwain ar y broses o ysgrifennu a chyfarwyddo sioe newydd i’w pherfformio yn fuan yn 2019.
Bydd cast y sioe yn cael eu dewis gan y tîm cyfarwyddo ifanc a staff Bara Caws, trwy glyweliadau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Bydd yr Urdd yn ceisio denu awduron ifanc dros yr haf i glywed eu syniadau nhw ar gyfer y sioe erbyn yr hydref.
“Er bod y cwmni theatr wedi ail-ddyfeisio ei hun droeon, yr un yw’r gwerthoedd craidd, sef cynnig profiadau celfyddydol o’r safon ucha’ posib i bobol ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel genedlaethol,” meddai Branwen Haf, Trefnydd Cynorthwyol Eisteddfod yr Urdd.
“Y bwriad ydy creu cynhyrchiad gwreiddiol, wedi’i lunio o syniadau aelodau ifanc.”