Y diweddar Michael Bogdanov
Mae’r cyfarwyddwr theatr, ffilmiau ac opera Cymreig, Michael Bogdanov, wedi marw yn 78 oed.
Bu farw o drawiad ar y galon ddydd Sul, Ebrill 16, tra ar wyliau yng ngwlad Groeg gyda ffrindiau. Roedd wedi’i eni a’i fagu yng Nghastell Nedd, ac yn dad i bump o blant.
Roedd yn adnabyddus am ei addasiadau modern o waith Shakespeare ac mi gyfarwyddodd mewn sawl un o brif theatrau’r byd gan gynnwys Tŷ Opera Sydney a’r Tŷ Opera Brenhinol.
Bu’n Gyfarwyddwr Cysylltiol i’r Theatr Genedlaethol Frenhinol am wyth mlynedd, a bu’n Brif Weithredwr ar theatr fwyaf yr Almaen, y Deutsches Schauspielhaus, am dair blynedd.
Cyfarwyddodd wyth cynhyrchiad i’r Cwmni Shakespeare Brenhinol ac fe sefydlodd y Cwmni Shakespeare Seisnig yn 1986 ar y cyd â’r actor Michael Pennington.
Yn 2003 cyfrannodd at sefydliad Cwmni Theatr Cymru ac yn 2005 fe gyfarwyddodd y cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg o Hamlet.
Bydd angladd i’r teulu yn cael ei chynnal yng Nghymru, a gwasanaeth goffa yn cael ei gynnal yn Llundain.