Llun parth cyhoeddus
Fe fydd cynhadledd fawr yn cofio am y bardd mawr ‘arall’ o Gymro a fu farw yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917.
Fe gafodd Edward Thomas ei ladd yn 39 oed ar ddydd Llun y Pasg ac fe fydd y gynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ddydd Mercher.
Yn ôl y trefnydd, yr Athro Katie Gramich o’r Adran Saesneg yn y Brifysgol, roedd Edward Thomas yn chwilio am ‘gartref’ corfforol a meddyliol yn ei farddoniaeth ac roedd y digwyddiadau’r wythnos hon yn dod ag ef “adref” i Gymru.
Mae’r dathliadau’n cynnwys cynhadledd ryngwladol, gweithdy sgrifennu, perfformiad barddonol ac arddangosfa sydd wedi ei thynnu o un o gasgliadau arbennig y Brifysgol, y casgliad mwya’ yn y byd o ddeunyddiau Edward Thomas.
Mae disgwyl y bydd aelodau o deulu’r bardd yn dod i’r digwyddiadau.
Cefndir
Er ei fod wedi ei eni yn Lambeth, Cymry oedd teulu Edward Thomas ac roedd yn ei ystyried ei hun yn Gymro.
Fe ddaeth yn ffrindiau gyda’r bardd Cymreig arall, W H Davies, a’r bardd Americanaidd Robert Frost, gan ysbrydoli cerdd enwoca’ hwnnw, The Road Not Taken.
Y stori yw fod Frost wedi bwriadu’r gerdd i bryfocio ychydig ar Edward Thomas oherwydd ei chwit-chwatrwydd wrth ddewis llwybrau cerdded, ond fod y Cymro wedi gweld neges ddyfnach a’i chymryd yn ysgogiad i enlistio yn y fyddin.
Yn ddiweddarach eleni, fe fydd cyfres o ddigwyddiadau i gofio Hedd Wyn, y bardd Cymraeg a fu farw yn y Rhyfel Mawr yn 1917 ac sydd wedi dod yn symbol o golledion Cymru yn yr ymladd.