Arwel Gruffydd
Mae Cyfarwyddwr Artistig, Theatr Genedlaethol Cymru wedi talu teyrnged i’r actor a’r cerddor, Dafydd Dafis, a ganfuwyd yn farw ym Mhorthaethwy fore Mawrth yr wythnos hon.

Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 8.30yh nos Lun, ond dydyn nhw ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.

“Roedd yn ddyn bonheddig a di-rodres y ces i’r fraint o ddod i’w adnabod yn gynnar iawn yn fy ngyrfa,” meddai Arwel Gruffydd wrth golwg360.

“Ef oedd prif gymeriad cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Enoc Huws, sef addasiad cerddorol o nofel Daniel Owen gan William R Lewis a Sioned Webb, ym 1989, pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

“Dw i’n cofio’r cynhyrchiad yma yn arbennig, gan mai dyma’r cynhyrchiad llwyfan proffesiynol cyntaf i mi fel actor, a minnau bryd hynny yn cychwyn fy ngyrfa, ddyddiau’n unig wedi i mi adael y coleg.

“Fel actor ifanc, di-brofiad, roeddwn i mewn cwmni da a charedig, a’r cast o enwogion gofalgar yn cynnwys nid yn unig Dafydd, ond hefyd J O Roberts a Maureen Rhys fel Capten a Mrs Trefor a Sian James fel Susie.

“Roedd y cast hwnnw hefyd yn cynnwys Gary Williams, Stewart Jones, Mair Tomos Ifans, Huw Tudor, Danny Grehan ac Eirian Owens. Cynhyrchiad cofiadwy, dan gyfarwyddyd y diweddar Graham Laker.

“Roedd cyfuniad lleisiol Dafydd Dafis a Sian James yn eithriadol. Yn ogystal â bod yn actor dawnus, roedd ganddo lais canu melfedaidd a hudolus, ac acen Rhos bendigedig!”