Sian Gwynedd
Mae pennaeth cynhyrchu cynnwys BBC Cymru, wedi dweud wrth un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw fod y Gorfforaeth yn edrych ar y posibilrwydd o symud i mewn i bencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin.
Yn ol Sian Gwynedd, mae gan y BBC bymtheg o bobol yn gweithio yn y stiwdio ar Heol y Prior lle mae rhaglen Tommo yn cael ei darlledu’n fyw ar Radio Cymru rhwng 2 a 5 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Iau.
Mae’r BBC yn edrych ar “ddichonoldeb” symud y rhain i’r adeilad newydd Yr Egin, meddai. Un o’i dyletswyddau penodol ers cael ei phenodi’n bennaeth cynhyrchu cynnwys yn 2016, ydi meithrin perthynas gydag S4C.
“Mae’r trafodaethau yn parhau,” meddai Sian Gwynedd wrth Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad ym Mae Caerdydd, wrth i hwnnw dderbyn tystiolaeth am ddyfodol y sianel Gymraeg.