Llion Williams (Llun: Theatr Bara Caws)
Mae’r actor Llion Williams wedi creu hanes drwy ennill y brif wobr Gymraeg a Saesneg yng Ngwobrau Theatr Cymru yn Abertawe neithiwr.
Dyma’r tro cyntaf i’r un actor ennill y wobr ar gyfer yr Actor Gorau yn y ddwy iaith ar yr un noson.
Yng Nghanolfan Celfyddydau’r Taliesin, enillodd Llion Williams y wobr Gymraeg am ei ran yn y ddrama Chwalfa (Theatr Genedlaethol Cymru), a’r wobr Saesneg am ei ran yn y ddrama ddwyieithog Belonging/Perthyn (Chapter/Torch).
Aeth y wobr am y Sain Gorau i Gruff Rhys, prif leisydd y Super Furry Animals, am ei waith ar y gân Candylion ar gyfer cynhyrchiad o The Insatiable, Inflatable Candylion (National Theatr Wales).
Enillodd Peter Doran wobr y Cyfarwyddwr Gorau am ei waith ar gynhyrchiad Torch o Belonging/Perthyn, sy’n ymchwilio i ddementia.
Sophie Melville yn creu hanes
Fe wnaeth Sophie Melville, sy’n hanu o Abertawe, greu hanes hefyd wrth iddi ennill y wobr ar gyfer y Perfformiad Benywaidd Gorau am yr ail flwyddyn o’r bron, a hynny am ei rhan yn Blackbird from Those Two Imposters yn theatr dafarn The Other Room yng Nghaerdydd.
Y llynedd, cipiodd hi’r wobr am ei rhan yn Iphigenia in Splott.
Gwobr Arbennig
Brodor arall o ardal Abertawe a enillodd y Wobr Cyfraniad Arbennig, sef y canwr opera rhyngwladol Dennis O’Neill o Bontarddulais.
Mae Academi Llais Rhyngwladol yn dwyn ei enw wedi’i sefydlu bellach ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd, sefydliad sydd wedi cael canmoliaeth y gantores fyd-enwog y Fonesig Kiri Te Kanawa.
Cafodd y gwobrau eu rhoi gan banel o 40 o feirniaid sy’n gweithio ym myd y theatr Gymraeg a Saesneg.
Dywedodd cyfarwyddwr Gwobrau Theatr Cymru, Mike Smith fod y gwobrau’n “dangos y twf mewn theatr ddwyieithog yng Nghymru, gan adlewyrchu’r berthynas arbennig rhwng dwy iaith y genedl”.
Mae modd gweld yr enillwyr yn llawn ar wefan Gwobrau Theatr Cymru.