Kim Howells, yr awdur (Llun: golwg360)
Mae gwleidydd a bleidleisiodd tros fynd i ryfel yn Irac yn 2003, bellach yn ysgrifennu nofel am y modd y mae pobol ar lawr gwlad yn ymateb pan mae llywodraethau’n ymyrryd yn eu gwledydd.
Ac mae gan Kim Howells ddiddordeb mawr yn yr hyn sy’n digwydd yn ninas Mosul heddiw, wrth i ddwy garfan o Fwslemiaid – y Shiia a’r Swni – fynd benben â’i gilydd oddi mewn i’r ddinas a’r wlad.
Mae’r hyn sy’n digwydd yn ninas Mosul, meddai, yn ddarlun o’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol yn gyffredinol – yn enwedig ers gwrthdystiadau’r Gwanwyn Arabaidd yn 2013.
“Be’ gafodd ei danbrisio gan y Gorllewin a’r holl bobol oedd yn hoffi gweld pobol ifanc yn herio’r drefn, oedd pa mor weithgar oedd yr ochr geidwadol – fel y Muslim Brotherhood – wedi bod cyn i hyn ddigwydd,” meddai Kim Howells.
“Felly, mae yna garfan o bobol sy’n amheus iawn o’r Gorllewin ac o bob math o syniadau seciwlar, ac mae hynny’n cael effaith hefyd ar y ffordd y mae pobol a gwledydd yn meddwl am ei gilydd, Irac ac Iran, a fu mewn rhyfel gwaedlyd iawn yn erbyn ei gilydd, a lle cafodd miliynau o bobol eu lladd…
“Mae dinas Mosul yn gadarnle’r Swnni, ac mae ganddoch chi wlad fel Sawdi Arabia, sy’n weinyddiaeth Swnni… ond wedyn mae Iran yn wlad Shiia, a’r pryder ydi fod ganddi ormod o ddylanwad tros lywodraeth Shiiaidd Irac…
“Wnes i erioed feddwl y byddai’r canol crefyddol yma yn dod trwodd mor gry’… ond mae wedi digwydd yn yr Aifft hefyd, ac mae’r Aifft yn allweddol pan ydych chi’n trafod y Dwyrain Canol. Pe bai’r Aifft wedi newid mewn ffordd wahanol yn 2013, fe fyddai pethau’n wahanol iawn, iawn.
“Mae’r brwdrau am Mosul – ac fe fûm i yn Mosul rhyw ddwywaith – yn dangos yr hyn sydd angen i ni ei ddeall yr hyn sy’n digwydd yn y rhan hon o’r byd.”
Pam ymyrryd yn Irac yn 2003?
Mae Kim Howells yn ddiedifar tros bleidleisio i fynd i ryfel yn Irac yn 2003, er bod rhesymau Tony Blair tros arwain byddin Prydain yno yn rhai simsan iawn.
I fachgen o Benywaun, Aberdâr – a ddaeth yn ei dro’n Gadeirydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn rhinwedd ei swydd yn y Swyddfa Dramor – roedd hi’n ddigon credu y bydden nhw’n llwyddo i ddisodli’r “ffasgydd o unben”, Saddam Hussein.
“Mae Ann Clwyd (Aelod Seneddol Llafur tros Gwm Cynon) yn gwybod llawer iawn mwy na fi am hyn,” meddai Kim Howells, “ond roedd y modd yr oedd Saddam Hussein yn trin y Cwrdiaid yn ofnadwy. Ac mae yna Gwrdiaid heddiw ar gyrion dinas Mosul.
“I rywun gafodd ei fagu ym Mhenywaun, yn fab i Gomiwnydd, mae cael gwared ag unben bob amser yn nod.”