Bydd prosiect newydd i ddod ag artistiaid o wahanol ddisgyblaethau ynghyd i gyd-greu gwaith theatr gwreiddiol yn “ffordd o ddatgelu straeon sydd ddim fel arfer yn cael eu hadrodd”.

Yn hytrach na gweithio’n annibynnol i ddatblygu syniadau, bydd prosiect Pair yn cynnig cyfle i weithwyr llawrydd yn y sector gelfyddydol weithio gyda’i gilydd.

Yn ôl Dr Rhiannon Mair, a gafodd y syniad, bydd y prosiect gan Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth S4C, yn caniatáu adrodd stori o safbwyntiau gwahanol i’r arfer.

Mae Pair ar agor i bob math o artistiaid: actorion, dramodwyr, awduron, storïwyr, cyfarwyddwyr drama, cerddorion, cyfansoddwyr, dawnswyr, coreograffwyr, dylunwyr set a gwisgoedd, dylunwyr sain a goleuo, artistiaid fideo a mwy.

Drwy ddod ag artistiaid ynghyd, y gobaith yw y bydd modd datblygu syniadau newydd, cyffrous ar gyfer cynyrchiadau theatr i’r dyfodol.

‘Llawn cyffro’

“Dw i’n llawn cyffro am arwain prosiect Pair, ac i weld y cyfoeth theatraidd gaiff ei greu wrth ddefnyddio technegau dyfeisio, gan uno amryw artistiaid i rannu a chyd-ddarganfod ffyrdd unigryw o gyflwyno straeon a themâu,” meddai Dr Rhiannon Mair.

“Mae creu theatr drwy ddyfeisio yn greiddiol i’m gweledigaeth fel ymarferydd ac ymchwilydd.

“Credaf fod yr arddull hwn yn ein galluogi i ddatgelu straeon nad ydynt efallai’n cael eu hadrodd, neu’n caniatáu adrodd stori o safbwyntiau gwahanol.

“Mae’n bwysig i genedl fel Cymru ganfod ffyrdd creadigol o adlewyrchu ac adnewyddu ein naratifau unigol a thorfol, a chredaf y bydd bwrlwm Pair yn gyfle i wneud hyn.”

Y cynllun

Bydd deuddeg o artistiaid yn cael cymryd rhan yn Pair, a phob un yn cael taliad o hyd at £1,500, ynghyd â chostau cynhaliaeth am eu hamser a’u hymrwymiad.

Fe fydd pawb yn dechrau’r siwrne greadigol ym mis Mai yn y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, sef cartref Theatr Gen, lle bydd y deuddeg yn cael hyfforddiant a gweithdai er mwyn dysgu sgiliau ymchwil, dulliau dyfeisio a sgiliau creu ar y cyd.

Ar ôl hynny, byddan nhw’n ffurfio tri grŵp, gyda phob grŵp yn cynnwys artistiaid o wahanol ddisgyblaethau.

Yn ystod yr haf, bydd y grwpiau’n treulio wythnos gyda’i gilydd yn datblygu dau syniad yr un.

Y gobaith yw y bydd rhai o’r syniadau sy’n cael eu cyflwyno yn arwain at gomisiynau gan Theatr Gen i greu cynyrchiadau theatr byw dyfeisiedig, a allai gynnwys elfennau digidol hefyd.

‘Lle i arbrofi’

Dywed Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, fod gan y cwmni le i arbrofi gyda ffyrdd amgen o greu cynyrchiadau.

“Mae lle i ni fel cwmni, wrth gwrs, wireddu gweledigaeth greadigol un artist; ond mae lle hefyd i ni arbrofi gyda ffyrdd amgen o greu cynyrchiadau theatr, ac i annog artistiaid i gydweithio a chyd-greu,” meddai.

“Mae traddodiad hir ac anrhydeddus o greu theatr y ffordd yma yng Nghymru, ac mae’n bryd i ninnau fel Theatr Genedlaethol anrhydeddu’r traddodiad hwnnw.

“Dw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld beth wnaiff ddigwydd wrth inni daflu artistiaid o bob math i mewn i’r pair.”

‘Denu a datblygu talent’

Dywed Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C, eu bod nhw’n falch iawn o gefnogi’r cynllun.

“Mae gennym ni rôl fel darlledwr cyhoeddus i ddenu a datblygu talent i’r sector greadigol yng Nghymru ac rydyn ni’n gwbl angerddol ac ymrwymedig i roi cyfleoedd i artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli ac sydd ddim bob amser yn cael cyfle i fynegi eu lleisiau a’u syniadau,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu sgiliau amryw o artistiaid – fydd yn gallu gweithio ar draws gwahanol lwyfannau – a dilyn siwrne’r cynllun hwn gan ymfalchïo yng nghreadigrwydd y Pair.”