Bydd seren teledu ychydig bach yn wahanol yn gwneud ymddangosiad annisgwyl ar raglen gomedi Gymraeg.
Mae Tipper y llygoden frown wedi serennu ar raglen lwyddiannus Tiny Creatures ar Netflix, yn ogystal â’r opera sebon Eastenders.
Ond yng ngogledd orllewin Cymru fydd y creadur yn ymddangos nesaf, ar gyfer cyfres newydd o’r rhaglen gomedi Rybish ar S4C.
Fe fydd pennod gynta’r gyfres yn cael ei darlledu ar nos Wener, Ebrill 1, pan fydd y ffrind blewog i’w weld yn y ganolfan ailgylchu yng nghwmni’r chwe gweithiwr.
‘Rhan bwysig o’r bennod’
Cwmni Da yng Nghaernarfon sydd wedi cynhyrchu Rybish, ac mae’r awdur a’r cynhyrchydd Barry ‘Archie’ Jones wedi bod yn trafod cefndir y bennod.
“Roedden ni eisiau llygoden go iawn fel ei bod yn ymddangos yn gredadwy ac roedd Tipper yn berffaith ar gyfer y rhan,” meddai.
“Nid yw’n rhan fawr ond mae’n dal i fod yn rhan bwysig iawn o’r bennod.”
Yn ôl yr hyfforddwr anifeiliaid Mark Amey, roedd Tipper wedi’i gweld yn sgrialu o gwmpas gorsaf drenau tanddaearol yn Llundain ar set Eastenders y llynedd.
Fe ddatgelodd hefyd fod y llygoden wedi dychwelyd i Walford ar gyfer pennod arall o’r opera sebon enwog, sydd eto i’w darlledu.
Mae hi hefyd wedi ymddangos yn y sioe boblogaidd Tiny Creatures i Netflix, a enillodd ddwy Wobr Emmy ar gyfer Rhaglen Teithio, Antur a Natur Eithriadol a Sinematograffi Eithriadol y llynedd.
“Maen nhw’n byw am tua blwyddyn a hanner ac mae Tipper ar fin ei hymddeoliad haeddiannol ac o bosib cael ei theulu ei hun,” meddai Mark Amey.
Newid lleoliad
Cafodd y gyfres gyntaf o Rybish ei ffilmio yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid-19 ac fe adeiladodd y cynhyrchwyr ganolfan ailgylchu ffug ar hen safle tirlenwi yng Ngharmel ger Caernarfon.
Yn ôl Barry ‘Archie’ Jones, y cynllun gwreiddiol oedd ffilmio’r gyfres mewn canolfan ailgylchu go iawn, a dyna fyddan nhw’n ei wneud yn ystod y gyfres newydd.
“Rhoddodd y cyfnod clo ddiwedd ar y syniad hwnnw ac mi wnaethon ni adeiladu ein canolfan ein hunain,” meddai.
“Mi greodd y cast a’r criw eu swigen eu hunain gan fyw mewn hen dafarn yn ystod y ffilmio.
“Roedden ni wrth ein boddau pan ddywedodd Cyngor Gwynedd y gallem ddefnyddio’r ganolfan ym Mlaenau Ffestiniog.
“Fel arfer mae ar agor dri diwrnod yr wythnos ac felly roeddem yn gallu ei defnyddio pan oedd ar gau.
“Roedd staff y ganolfan, fel gweddill y dref, yn groesawgar iawn ac yn help mawr i ni.”
Cyfres newydd
Fe fydd y gyfres newydd yn cynnwys chwe phennod, sydd i gyd yn ymwneud â’r un diwrnod yn y ganolfan, yn ôl Barry ‘Archie’ Jones.
“Yn amlwg, mi wnaethon ni ffilmio dros gyfnod o wythnosau ac roedd y staff yn help mawr i’n cynorthwyo i gadw dilyniant,” meddai.
“Mae’r actorion yn eistedd yn y Caban ac yn perfformio eu llinellau tra bod y cyfarwyddwr, Sion Aaron a minnau yn eistedd mewn oriel gerllaw.
“Mi wnaethon ni ffilmio’r golygfeydd tu fewn gyda chamerâu yn hongian o’r nenfwd ac yn cael eu gweithio o bell.
“Gan fod y camerâu yn recordio drwy’r adeg, roedd yr actorion yn rhydd i actio’r olygfa heb orfod poeni pa gamera oedd yn eu ffilmio.
“Mae’n rhoi teimlad ‘pry-ar-y-wal’ i’r olygfa sy’n realistig iawn ac sydd wedi gweithio’n dda iawn.”
Cafodd pobol leol eu recriwtio fel ecstras hefyd, ac mae pob pennod yn cynnwys actor gwadd yn ogystal â’r prif gast arferol – sef Dyfed Thomas, Rhodri Trefor, Sion Pritchard, Betsan Ceiriog, Mair Tomos Ifans a Carys Gwilym.