Cân i Gymru fydd yn dwyn sylw cenedlaethol heno (nos Wener, Mawrth 4), ond cystadleuaeth ganu dra gwahanol oedd yn serennu ddechrau’r wythnos hon.
Mae’r gystadleuaeth honno – sef Cân o Gymru – yn drefniant blynyddol rhwng Undeb Cymru a’r Byd a Gŵyl Cymru Gogledd America, ac fe gafodd ei gynnal eleni ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Dau gategori oedd yn rhan o’r gystadleuaeth ehangach, sef yr unawd i blant 7-11 oed, a’r unawd i blant 12-16 oed, ac roedd modd i unigolion o bob cwr o’r byd uwchlwytho’u perfformiad ar y we.
Daeth dwy ferch o Ynys Môn a Gwynedd i’r brig yn y gystadleuaeth, gan ennill £100 yr un yn y broses, gyda gwobrau ariannol i’r ail a’r trydydd safle hefyd.
Codi canu
Mae Edward Morus Jones yn Is-Gadeirydd gyda mudiad Undeb Cymru a’r Byd, ac mae wedi bod yn sôn am sut ddaeth y gystadleuaeth i fodolaeth.
“Wnes i ei chychwyn hi flwyddyn yn ôl mewn cydweithrediad rhwng Undeb Cymru a’r Byd a Gŵyl Cymru Gogledd America,” meddai wrth golwg360.
“O’n i’n meddwl – rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth i gael pobol ifanc a phlant yn rhan o’r ddau fudiad hynny, a dyna ddigwyddodd.
“Mi gawson ni gystadlu da’r llynedd, ac mi gawson ni gystadlu da eleni hefyd – ddigon i ni gael cyntaf, ail a thrydydd yn y ddwy gystadleuaeth.”
Ymhlith y beirniaid eleni roedd y canwr-gyfansoddwr Arfon Wyn, sydd wedi cael llwyddiant ysgubol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru dros y blynyddoedd, Mary Jones McGuyer ac Elen Wyn Keen.
Cari Lovelock o Lanerchymedd a Leusa Mair Edwards o’r Groeslon oedd y ddwy fuddugol yn y cystadlaethau hynny.
Byd bach
Mae Edward Morus Jones hefyd yn aelod o fwrdd trefnu Gŵyl Cymru Gogledd America – sydd yn debyg i’r Eisteddfod Genedlaethol ond yn cael ei chynnal ar draws yr Iwerydd.
“Dw i wedi bod yn mynd drosodd i’r ŵyl honno yn beirniadu, canu ac arwain cymanfa ers tua 20 mlynedd,” meddai.
“Mae Megan Williams [trefnydd yr ŵyl] wedi dod i gydweithio’n dda rhwng Undeb Cymru a’r Byd, Cymdeithas Cymru-Ariannin, a Chymdeithas Gymreig Gogledd America.
“Mi wnaeth hi a fi gysylltu â’n gilydd a dweud, ‘Beth am gael y gystadleuaeth yma tra bod y Covid yma efo ni, a gwneud rhywbeth yn rhithiol?’, y llynedd.
“Weithiodd o mor dda, fe wnaethon ni benderfynu gwneud yr un fath eto eleni.”
Dywed eu bod nhw wedi eu synnu gan dalent y ddwy a gafodd gyntaf ac ail yn y gystadleuaeth 12-16 oed – Leusa Mair Edwards a Manon Jones – nes eu bod nhw wedi cynnig gwobr ychwanegol iddyn nhw.
“Rydyn ni hefyd yn gallu cynnig iddyn nhw $1000 ar ben y £100 i alluogi nhw i fynd i America flwyddyn nesaf,” meddai.
“Mae [Gŵyl Cymru Gogledd America] y tro hwnnw yn nhalaith Nebraska, ac mae’r ddwy ohonyn nhw wedi gwirioni gyda’r wobr.”