Mae myfyrwyr Adran Berfformio a Theatr Gerddorol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn mynd i fod yn perfformio’r opera roc Godspell yng Nghastell Caerdydd dros y penwythnos.
Ac mae cynulleidfa am gael bod yn bresennol ar gyfer y pedwar perfformiad, gyda dau gast gwahanol yn perfformio ddwywaith yr un.
Bydd y perfformiadau’n cael eu cynnal nos Wener (9 Gorffennaf) a nos Sadwrn (10 Gorffennaf).
Ond bydd angen dilyn canllawiau a rheolau covid, gyda’r cyhoedd yn cael mynychu’r perfformiad yn eu swigod.
Ni fydd y gynulleidfa’n cael caniatâd i gymysgu tuy hwnt i’w swigod, a bydd gofyn i bawb ddod â blanced bicnic neu gadair i wylio’r perfformiad
Cafodd yr opera roc, sy’n dilyn dyddiau olaf Iesu Grist, ei chynhyrchu ar Broadway yn 1971 yn wreiddiol gan dorri tir newydd yn ei hymdriniaeth o’r stori.
Angharad Lee sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad hwn gyda chymorth Elen Bowman, tra bod John Quik yn cyfarwyddo’r gerddoriaeth gyda chefnogaeth Chris Fossey.
Mae’r cynhyrchiad wedi’i goreograffu gan Tori Johns.
“Ar ddiwedd blwyddyn heriol, mae’r perfformiad hwn yn gyfle i ddathlu llwyddiannau’r myfyrwyr,” meddai Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru.
“Mae’r flwyddyn wedi bod yn dipyn o rollercoaster i ni fel adran, newid trefniadau, addasu a cheisio rhoi cyfleoedd i’n myfyrwyr.
“Ond rhaid cofio bod ni wedi cadw’r myfyrwyr yn brysur wrth i’r myfyrwyr weithio ar gynyrchiadau mewnol fel Fosse, Everyday a Little Death, Chatroom a Cuddio i gynulleidfa gaeedig.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut fydd y myfyrwyr yn ymateb i berfformio o flaen cynulleidfa byw, a hynny yn yr awyr agored.”
“Y profiad gorau dw i erioed wedi’i gael”
Dywedodd Levi Johnson, sef un o’r actorion sy’n chwarae rhan Iesu Grist: “Mae’n fraint i fedru chwarae rhan yr Iesu.
“Dyma’r her fwya’ i mi wynebu fel perfformiwr, ond hefyd y profiad gorau dw i erioed wedi’i gael.
“Rwy’n edrych ymlaen at berfformio yn y castell.
“Dyma’r llwyfan i mi berfformio arni yn fy ninas enedigol. Mi fydd hi’n brofiad anhygoel i berfformio yn yr awyr agored o fewn muriau’r castell yng Nghaerdydd.”