Mae Canolfan Ffilm Cymru (Film Hub Wales) wedi rhoi £52,700 o arian o gronfeydd y Loteri Genedlaethol i gefnogi rhai o sinemâu annibynnol Cymru.

Bydd wyth lleoliad a gwyliau ffilm yn derbyn arian o’r gronfa wrth i gyfyngiadau’r pandemig gael eu llacio.

Theatr Gwaun (Abergwaun), Cellb (Blaenau Ffestiniog) a Chanolfan y Celfyddydau Pontardawe yw’r sinemâu sy’n derbyn arian.

O ran gwyliau ffilm, bydd Gŵyl Kotatsu (Caerdydd), Gŵyl WOW (Aberystwyth), Rhwydwaith Gwyliau Ieuenctid Cymru (Y Rhyl), Prosiect Off Y Grid (gogledd Cymru), a Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn derbyn cyfran o arian y gronfa.

I rai ohonyn nhw, dyma fydd y tro cyntaf i’w drysau agor ers mis Mawrth y llynedd.

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn gorff sy’n cefnogi sefydliadau sy’n dangos ffilmiau, fel gwyliau, cymdeithasau neu ganolfannau’r celfyddydau.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i alluogi’r lleoliadau ddangos rhai o’r ffilmiau mwyaf poblogaidd unwaith eto.

Fe fydd hefyd yn cefnogi ymwelwyr gan gynnig digwyddiadau hygyrch a fforddiadwy, a hynny ar-lein ac yn fyw.

Cyfle i fwynhau ffilmiau unwaith eto

Dywed Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru, ei bod hi’n “garreg filltir enfawr” i’r diwydiant wrth ailagor.

“Mae ffordd heriol o’n blaenau wrth inni ailadeiladu ac mae sinemâu angen cefnogaeth cynulleidfaoedd nawr yn fwy nag erioed,” eglura.

“Ond mae hon yn foment i edrych ymlaen ac adfer o’r cyfnod a dreuliwyd ar wahân.

“Mae ffilmiau hir ddisgwyliedig yn cael eu rhyddhau ac mae arddangoswyr yn barod i’n diddanu, ond diolch i’w ffocws cymunedol mae gan bob un ohonom gyfle i chwarae rhan weithredol yn nyfodol sinema.”

‘Creu croeso Cymreig’

Bydd CellB ym Mlaenau Ffestiniog yn dangos dros 50 o ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol drwy eu rhaglen ieuenctid ‘Sinema’r Byd’.

Gan agor sgrîn newydd yn y ganolfan, Sgrin 2, byddan nhw’n dangos ffilmiau sy’n archwilio diwylliant a newid hinsawdd.

“Fe fydd ein gwesteiwyr ifanc yn croesawu, cyfarch, cynghori, chwerthin a gwrando ar ein cynulleidfaoedd ifanc a hen.

“Fe fyddwn yn creu croeso Cymreig wrth i’n cynulleidfaoedd ddychwelyd i CellB a phrofi’r Sgrin 2 newydd a sefydlwyd fel lle i’n holl gymuned ddod ynghyd i wylio ffilmiau.”