Mae tua 1,200 o bobol wedi gorfod gadael theatr yn y West End yn Llundain ar ganol sioe, wedi i ddarn o offer trydanol or-boethi yn ystod perfformiad o Les Miserables.

Fe gafodd y cast, a oedd yn perfformio yn y Queen’s Theatre yn Shaftesbury Avenue, eu symud o’r adeilad, ynghyd â’r gynulleidfa – er mwyn bod yn saff.

“Fuodd yna ddim tân, ond roedd darn o offer wedi gor-boethi,” meddai llefarydd ar ran Gwasaneth Tân Llundain. “Chafodd hyn ddim effaith ar yr awditoriwm ei hunan.

“Roedd dwy injan dân wrth law i ymateb i waith gafodd ei wneud gan gwmni UK Power Network,” meddai’r llefarydd wedyn.

“Fe gafodd tua 1,200 o bobol eu symud allan o’r theatr cyn i’r criwiau gyrraedd.”