Y Ditectif Arolygydd Tom Mathias yn Y Gwyll
Ciron Gruffydd sy’n adolygu pennod arbennig o’r gyfres ar S4C…
Ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn newydd, pa ffordd well i ddathlu na gydag ymweliad arall i ben cythryblus y Ditectif Arolygydd Tom Mathias a thref beryglus Aberystwyth yn Y Gwyll? Os nad ydach chi’n berson sentimental, wrth gwrs.
Ac mae’n rhaid i mi ddweud, roedd y rhaglen arbennig yma yn fy marn i, yn gam i’r cyfeiriad cywir ar ôl cyfres gyntaf oedd yn llwyddo i greu straeon llofruddiaeth afaelgar ar draul datblygiad y prif gymeriadau. Roedd gan hon bob dim.
Ac roedd y rhaglen hefyd yn llawn dirgelwch. Nid yn unig o ran pwy losgodd y tŷ, ond hefyd sut fod cymuned fach anial a gwledig yn Sir Geredigion yn cynnwys trigolion sy’n siarad mewn cymysgedd o acenion lleol ac acenion Gwynedd.
Ta waeth, dwi’n bod yn gysetlyd braidd, achos ar y cyfan, roedd y ffilm hon yn teimlo’n fwy cyflawn na’r rhai blaenorol.
Roedd y stori ei hun, wrth gwrs, yn dorcalonnus, wrth i fachgen bach gael ei ladd mewn tân gafodd ei danio gan ei fam.
Cig ar asgwrn y cymeriad
Ond y peth pwysicaf i ni ei ddysgu, wrth gofio fod yr ail gyfres ar ei ffordd cyn diwedd y flwyddyn, oedd bod Tom Mathias ei hun wedi colli plentyn. Erbyn hyn, mae rhywun yn teimlo bod cig a gwaed yn cael ei roi ar asgwrn y cymeriad, a gall hynny ond fod yn beth da i’r holl gyfres.
Mae’r ffaith fod ei wraig, sy’n cael ei chwarae gan Anamaria Marinca, wedi ymddangos ar ddiwedd y rhaglen, hefyd yn gosod pethau’n daclus am yr ail gyfres.
Ar ben hynny, mae cymeriad Mali Harries, DI Mared Rhys, i’w gweld yn brwydro gyda gwrthdaro mewnol ei hun ac mae perfformiad Aneirin Hughes fel y Prif Arolygydd Brian Prosser (fy hoff gymeriad i o hyd, er nad oedd o i’w weld ddigon y tro hwn) yn wers i bawb ar actio’n gynnil.
Dim bod y rhaglen heb ei gwendidau. Dw i’n deall swyddogaeth DC Lloyd Elis fel y plismon sy’n gwneud y gwaith ymchwil ond dw i’n cael trafferth coelio fod cymeriad mor llywaeth yn gallu ei gwneud hi fel ditectif.
Ar ben hynny, dyw hi ddim fel bod y criw cynhyrchu yn siŵr iawn beth i’w wneud gyda Hannah Daniel sy’n actores fedrus pan mae hi’n cael y cyfle.
Ond, fel ddudis i, pa ffordd well i groesawu’r flwyddyn newydd na gyda phennod arbennig o Y Gwyll – ac os fydd yr ail gyfres lawn gystal â hon, mi fydd 2015 yn flwyddyn arbennig i ddrama Cymraeg.