Sion Richards, myfyriwr ymchwil ar gyfryngau digiol, sy’n trafod dyfodol y papurau bro a newyddion lleol…

Mae’r amgylchedd economaidd cythryblus presennol yn amlwg wedi tarfu ar y diwydiant darlledu Prydeinig. Trwy’r dirywiad cyson o gynnwys darlledu eang mewn cyd-destun lleol yma yng Nghymru (megis gwefan BBC.co.uk/cymru/lleol <http://www.bbc.co.uk/cymru/lleol/>), mae mwy o bwyslais nag erioed ar gyfryngau cymunedol a chyfryngau Amgen, megis gwefannau lleol er mwyn darparu newyddion a gwybodaeth leol a cymunedol ar ein cyfer.

Gyda chyfryngau amgen fel papurau bro a gwefannau cymunedol lleol/hyperlleol, mae’r pwyslais o gynnal ac adnewyddu yn dibynnu ar haelioni gwirfoddolwyr a chefnogwyr brwd – sydd ddim wastad yno i ddarparu cynnwys cynaladwy ac amserol i’r gynulleidfa.

Yn amlwg mae cyfryngau lleol yn rhan annatod bwysig o’n cenedl, wrth i ni geisio cydnabod a deall yr hyn sydd yn digwydd yn ein gymunedau ac o’n hamgylch. Mae David Rushton yn cefnogi’r awgrym yma:

‘As locality within broadcasting and media journalism plays a primary importance [for] most people, 88% in study of Mapping Regional Views.’

Rushton,2008;24

Mi ellid dweud hefyd fod cynnwys cyfryngau lleol yn rhan annatod o ddarganfod hunaniaeth ac unigolrwydd yn y cyd-destun ehangach o fewn cenedlaetholdeb, yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru. O ran creu hunaniaeth annibynnol o fewn ardaloedd a chynnwys cyfryngau lleol, mae Dr Larfhlaith Watson yn cyfeirio at ddefnydd y cyhoedd lleol a’u gweithgaredd yn y gymuned wrth greu cynnwys sydd â chyd-destun cymunedol lleol ac yntau a chyswllt hunaniaeth ardal cryf:

‘Identity is Constructed and exists socially: in other words it is constructed by people and exists within and between them. National identity brings individuals together as a nation and just as national boarders mark the boundary between nation-states, identity marks the boundary between ‘us’ and ‘them’.’

Watson, 2003;3

Trwy greu cynnwys darlledu a hunaniaeth cryf at ardal benodol, mae Claire Hudson, cyn-gynhyrchydd Wales This Week yn egluro fod cynulleidfaoedd Cymru yn ‘gwerthfawrogi’ cynnwys cyfoes sydd yn gwahaniaethu ei ardal a’i dalgylch daearyddol gan ‘gynorthwyo’r gynulleidfa i ddadansoddi’r ardal mewn cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol gyfoes ehangach’.  (Hudson;2009;118)

Papurau Bro

Wrth gwrs, un o brif fodelau darlledu lleol yma yng Nghymru ers y 70au yw’r papur bro, gyda dilyniant brwd o amgylch Cymru a phwyslais rhyngweithiad cymunedol wrth graidd cynhyrchiad y papurau.

Mae sôn yn ddiweddar ynglŷn â dyfodol y maes, a thrist yw clywed y newyddion diweddar fod Llais Aeron a’r Barcud, y ddau wedi ei leoli yng Ngheredigion yn brwydro i fodoli, gyda llai o gyfranwyr a chynnwys yn flynyddol. Mae’r prinder cyfranwyr ifanc yn amlwg yn tarfu ar ddatblygiad y maes o ran darparu newyddion cyfoes a datblygu ac adnewyddu strwythur tirwedd y papurau.

Efallai fod hyn yn sefydlu safbwynt diweddar Leighton Andrews fod angen i bapurau bro ddatblygu presenoldeb cryf ar-lein, ond nid yw Andrews yn debygol o ddarparu atebion i’r broblem.

Wrth gwrs mae rhai papurau bro megis Clonc <http://www.clonc.btck.co.uk/> yn creu defnydd aml-blatfform o wefannau fel Facebook ac wrth wneud hyn yn integreiddio dulliau newydd o gyfathrebu a dosbarthu’r argraffiadau. Ond pam mae datblygu’r dulliau dosbarthu a marchnata cyhoeddiadau lleol yma mor allweddol wrth warchod hunaniaeth a thraddodiadau Cymraeg?

Gan edrych ar ddyfodol papurau bro, rwyf wedi penderfynu edrych yn ôl ar wraidd sefydlu’r papurau a’i chyfraniad wrth sicrhau’r Gymraeg fel iaith fyw mewn sefyllfaoedd cymunedol a chymdeithasol wrth gynhyrchu’r argraffiadau.

Mae erthygl Gwilym Huws ‘The Success of the local: Wales ‘ yn taro golwg dros rhai nodweddion crai o sefydliadau papurau bro a’i bwysigrwydd yn ei chymunedau, gan warchod cyfathrebu drwy’r Gymraeg a chynnwys materion cyfoes lleol ers cyfnod y 70au.  Mae’r erthygl yn codi sawl pwynt diddorol gan edrych ar ddyfodiad gwreiddiol y maes:

  • Yn gyntaf, mae yn cyfeirio at y bygythiad tuag at draddodiadau Cymreig a Chymraeg o fewn cymunedau diwylliannol cryf, gyda’r mewnlifiad o weithwyr i ardaloedd chwareli llechi Gwynedd a phyllau glo cymoedd y De. Trwy sefydlu’r argraffiadau lleol roedd gweithgareddau cynhyrchu a sylwebu ar fywyd, iaith a diwylliant Cymraeg yn hyrwyddo traddodiadau a rhoi cyhoeddusrwydd i ddefnydd yr iaith mewn cymunedau o amgylch Cymru. (1996;86)
  • Yn ail, fod ‘paratoi cynnyrch darllen cyfoes drwy’r Gymraeg’ yn ffurf o gynorthwyo’r iaith gan gynyddu defnydd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol ac amgylchedd gweithiol drwy gynhyrchu’r argraffiadau. (1996;86)
  • ‘Diffyg papurau masnachol lleol’ ac hefyd y diffyg sylwebaeth leol ar y cyfryngau darlledu yn galluogi model y papur bro i flaguro a sefydlu fel prif blatfform darlledu lleol drwy’r Gymraeg yma Nghymru. (1996;87)

Mae’r nodweddion mae Gwilym Huws yn eu hawgrymu wrth drafod sefydliad modelau’r papurau bro yn allweddol wrth amddiffyn iaith a thraddodiadau. Trwy hyn maen nhw’n arddangos patrwm tebyg i’r hyn roedd Dr Watson yn cyfeirio atyn nhw ynghynt – drwy weithredu yn gymdeithasol leol a chreu cyfryngau a chynnwys lleol, creu hunaniaeth a safiad o draddodiadau lleol, sydd yn wir ers sefydlu nifer o’r papurau yn ôl yn y 70au.

Wrth feddwl am sefyllfa’r papurau, mae’n hanfodol eu bod yn datblygu ac yn addasu i dechnoleg a strwythuro darlledu a dosbarthu newydd ar-lein. O ystyried dyfyniad Dr Watson, rhan annatod i achub hunaniaeth cymdeithas a’i hyrwyddo ar sawl lefel, hynny yw drwy’r we neu ar brint. Mae’n hefyd yn bwysig gweithredu drwy’r Gymraeg a’i ddefnyddio a’i hyrwyddo mewn dulliau newydd i’w gwarchod a datblygu presenoldeb cryf ar-lein.

Mae sawl menter calonogol ar y gweill, gyda phartneriaeth Cwmni da gyda papur dre yng Nghaernarfon yn argoeli i sbarduno cynnydd sylweddol i’r papur hwnnw, gyda chynnwys aml-gyfrwng ac aml-blatfform i ddod. Y gobaith ydi y bydd yn arwain y ffordd i sawl papur arall.