Mi fydd y gyfres Cwffio Cawell yn dangos brwydrau cignoeth Cymry mewn cawell.

“Rydan ni wedi bod yn dilyn ymladdwyr o dros Gymru,” meddai Siwan Haf, cyfarwyddwr y rhaglenni efo Cwmni Da, wrth golwg360 heddiw.

“Mae gweithio ar y gyfres hon wedi agor fy llygaid a ’di newid fy meddwl i am beth ydi cwffio cawell. Mae ’na lot o sgil, ffitrwydd ac amser yn mynd i’r grefft a dwi’n edmygu’r rhai hynny sy’n cwffio erbyn hyn”

Ym Mae Colwyn mae’r rhaglen yn dilyn cyffro digwyddiadau “Brwydr yn y Bae,” wrth i ymladdwyr lleol ac Ewropeaidd gyfarfod mewn tair pencampwriaeth wahanol. Mae brwydrau teitl Cymreig ac Ewropeaidd wedi cael eu cynnal yn y bencampwriaeth yma.

“Yn y de da ni wedi bod yn dilyn mwy o’r bobl sy’n creu’r digwyddiadau,” dywedodd Siwan Haf.

Ymysg rhain mae Emma Frowen, sy’n cyflwyno’r ymladdwyr yn y caets, a Ricky Wright, MC ymladd cawell sydd am ddysgu mwy am y grefft.

“Mae Ricky’n eithaf difyr. Mae’n teimlo’n gryf ei fod e am ddeall meddylfryd yr ymladdwyr, ac felly wedi bod yn ymarfer ar gyfer ymladd cawell ei hun.”

Bydd ‘Brwydr yn y Bae’  yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Bae Colwyn am 5.30pm nos yfory (Sadwrn, Chwefror 25). Mae’r tocynnau yn £25.

Bydd Cwffio Cawell ar S4C fis Ebrill.