Rhydian Bowen Phillips
 Bydd cyfres newydd ar S4C gyda gwesteion yn cael dweud beth fydden nhw’n ei wneud petáen nhw’n cael bod yn dduw.

Ac heddiw mae cyflwynydd fi di duw yn rhannu ei fyd bach perffaith gyda golwg360.

“Mewn byd delfrydol byddai Cymru’n ennill Cwpan y Byd, Caerdydd yn yr Uwch-Gynghrair Bêl-droed [yn Lloegr], neb yn smygu achos mae gas gen i fwg, a phawb yn iach,” meddai Rhydian Bowen Phillips, sy’n ddipyn o ffan Caerdydd ac yn mynd I’r ffeinal yn Wembley ddydd Sul.

 “Mae fy nghalon i’n dweud bydd Caerdydd yn ennill 1-0, ond mae fy mhen i’n ofni bod ni’n mynd i gael crasfa. Mae tynged yn dweud bydd Craig Bellamy’n cael gôl yn erbyn ei hen glwb mae arna i ofn”

Yn y gyfres fi di duw, fydd yn dechrau ar nos Iau, 8 Mawrth, bydd Rhydian Bowen Phillips yn holi gwesteion ynghylch eu diwrnod yn y rôl hollbwerus. Y gwesteion bydd y DJ Huw Stephens, yr actor Rhys ap Hywel, cyflwynwraig Radio Cymru, Magi Dodd, y diddanwr Mici Plwm, Emily Tucker sy’n chwarae Sioned yn Pobol y Cwm, a’r cerddor Gai Toms.

“Dwi’n edrych ymlaen at holi’r gwesteion yma, mae ’na gymaint o amrywiaeth rhyngddyn nhw felly mi fydd hi’n lot o hwyl,” meddai Rhydian, 35 oed, sy’n frodor o’r Rhondda.

“Mae gan y rhaglen strwythur eithaf syml – bydda i’n cyfweld ag un person ym mhob rhaglen o flaen cynulleidfa fyw ac yn gofyn sut le yw eu byd delfrydol.  Yna, fe fyddwn ni’n ceisio creu’r byd yma drwy gyfrwng lluniau, clipiau o’r archif, a mwy. Mae’n gyfle gwych i ddod i nabod y gwesteion yn well.”