Mae Aelod Seneddol Ceidwadol yn dweud y bydd S4C yn wynebu toriadau o 6% y flwyddyn am y ddwy flynedd nesa’ cyn i gyllid y sianel gael ei roi yn nwylo’r BBC.

Yn ôl Guto Bebb, AS Aberconwy, yn 2014 y bydd S4C yn mynd dan adain y BBC, er nad yw hi’n glir eto beth yn union fydd y trefniant.

Er ei fod wedi cael cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ddoe, doedd yntau ddim wedi cael llawer o fanylion am y trefniant newydd.

‘Cyfaddawd blêr’

Fe ddywedodd Guto Bebb wrth Radio Cymru mai “cyfaddawd blêr” ar y funud ola’ oedd y trefniant newydd, rhwng y BBC yn Llundain a’r Adran Ddiwylliant yn Llundain.

Roedd ef ac arbenigwyr darlledu’n dweud mai annibyniaeth S4C yw un o’r cwestiynau allweddol, a mae rhai o gyn benaethiaid y BBC ac S4C a gwleidyddion o bob plaid wedi pwysleisio hynny.

Yn ôl Guto Bebb, doedd y “smonach” tros ddiswyddo Prif Weithredwr y sianel ym mis Gorffennaf ddim wedi helpu, na galwad rhai gwleidyddion am warchod arian S4C yn llwyr.

Fformiwla?

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd yna fformiwla i sicrhau maint yr arian i S4C neu a fydd rhaid iddi drafod gyda’r BBC a brwydro yn erbyn adrannau eraill o’r Gorfforaeth.

Dyw hi ddim yn glir chwaith a fydd holl arian S4C yn dod trwy’r BBC.

Mae rhai hefyd yn pryderu am ddyfodol arian darlledu yng Nghymru oherwydd y toriadau i gyllid y BBC – mae defnyddio arian y drwydded i dalu am S4C, y World Service a gwasanaethau eraill yn golygu gostyngiad mawr yn arian y Gorfforaeth.

Gyda maint y drwydded hefyd wedi ei rewi am chwe blynedd, mae’r toriadau gwirioneddol yn debyg i’r hyn sy’n cael ei ddisgwyl ar gyfer llawer o adrannau’r Llywodraeth – yng nghyffiniau’r 25% tros y cyfnod.

Pe bai’r toriadau yna’n cael eu trosglwyddo i waith y BBC yng Nghymru, fe allai olygu toriadau o filiynau yn y gwasanaethau Cymraeg a Chymreig. Mae’r Gorfforaeth eisoes wedi dweud y bydd yn torri ar ei gwario ar raglenni teledu Cymraeg.

Mae’r Gweinidog Treftadaeth yng Nghymru, Alun Ffred Jones, wedi protestio am y ffordd y cafodd y trefniant ei wneud, heb unrhyw ymgynghori gyda phobol yng Nghymru.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae’r newyddion am y trefniant newydd yn “anghredadwy” ac maen nhw’n cyhuddo Llywodraeth y Glymblaid yn Llundain o “golli’r plot” ac o beidio ag ystyried y syniad yn iawn.

“Os oes gan eu cynrychiolwyr o Gymru unrhyw asgwrn cefn, byddan nhw’n siarad yn erbyn y syniad ofnadwy hwn,” meddai Is-gadeirydd y Gymdeithas, Rhodri Llwyd. “ Mae’n golygu mynd yn ôl i’r saithdegau pan nad oedd S4C yn bod”

Fe fydd y Gymdeithas yn cynnal rali brotest yn erbyn y toriadau i arian S4C yng Nghaerdydd ar 6 Tachwedd.