Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi’r ddogfen a gyflwynwyd i’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt yn dangos beth fyddai effaith toriadau mewn gwario cyhoeddus ar y sianel.
John Walter Jones
Mae’r adroddiad yn dechrau gyda llythyr gan gadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones at Jeremy Hunt yn rhybuddio ynglŷn â’r niwed y byddai toriadau ariannol yn ei gael.
“Byddai toriad o rhwng 25% a 40% yn ein cyllid yn taro at galon y gwasanaeth ei hun ac ni fyddai’n caniatáu i S4C gyflawni ei ddyletswydd statudol yn llawn nac yn ddigonol,” meddai.
“Fe fyddai toriadau tuag at ben draw’r sbectrwm yn dinistrio’r gwasanaeth.”
Byddai’r toriadau yn arwain at lai o bobol yn gwylio S4C, llai o oriau o raglenni yn cael eu cynhyrchu, rhaglenni o safon is, ac yn bygwth rhaglenni plant y sianel.
Mae’r ddogfen a anfonwyd at y Gweinidog Diwylliant yn dweud y byddai toriadau o 40% yn arwain at golli hyd at 800 o swyddi yn y sector gynhyrchu, ac fe fyddai S4C yn“fath hollol wahanol o wasanaeth” dan y fath amgylchiadau.
“Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gofyn i ni fodelu toriad 40% yn ein cyllideb, ac rydym ni wedi gwneud hynny,” meddai’r adroddiad.
“Serch hynny, fe fyddai toriadau o’r fath yn peryglu’r gwasanaeth ac yn codi cwestiynau ynglŷn â bodolaeth y sianel ei hun.
“Nid ydym ni’n credu y dylai darlledydd gwasanaeth cyhoeddus, sydd wedi ei greu gan ddeddfwriaeth, ac sydd mor bwysig i ddiwylliant ieithyddol hollbwysig ond bregus, gael ei dynnu’n ddarnau yn rhannol neu’n gyfan gwbwl heb ystyried holl effeithiau hynny a heb amser ar gyfer dadl gyhoeddus a Seneddol llawn.”
Byddai torri 40% o gyllideb y sianel yn arwain at wario £50,720 yn hytrach nag £83,568 ar gynnwys rhaglenni bob blwyddyn – cwymp o £32.848m.
Colli Pobol y Cwm yn yr haf?
Ar y llaw arall, byddai colli 25.5% o gyllideb y sianel yn arwain at wario £62.285m yn hytrach nag £83.568 ar gynnwys rhaglenni bob blwyddyn – cwymp o £21.28m.
Ond byddai hyd yn oed hynny’n arwain at “golli swyddi sylweddol yn y sector gynhyrchu yng Nghymru”, meddai’r adroddiad.
Awgrymodd S4C na fyddai’n bosib dangos Pobol y Cwm yn ystod yr haf, am eu bod nhw’n talu’r BBC i gomisiynu’r gyfres am 7 wythnos bryd hynny.
Byddai hefyd yn golygu nad oedd S4C o reidrwydd yn gallu fforddio talu am yr hawliau i ddangos chwaraeon ar y sianel, sydd ymysg eu rhaglenni mwyaf poblogaidd.
Mae’r ddogfen yn awgrymu eu bod nhw’n ystyried dod a S4C2 i ben, ac is-deitlo 80% o’u rhaglenni yn hytrach nag 100%.
Ychwanegodd John Walter Jones ei bod hi wed bod yn “dasg ofnadwy o anodd” paratoi’r adroddiad mewn llai na mis.
“Dyw hi ddim yn bosib cynnal adolygiad cynhwysfawr a chanfod beth fydda’r effaith ar y sector cynhyrchu annibynnol mewn ychydig wythnosau.
“Dyw hi ddim yn ffordd gyfrifol na phwyllog o gynlluniau dyfodol unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus yr iaith Gymraeg.”