Jeremy Hunt
Fe fydd Llywodraeth San Steffan yn newid y ffordd y mae S4C yn cael ei ariannu, cyhoeddwyd heddiw.

Maen nhw am newid y ddeddf sy’n gwarchod arian S4C, gan agor y drws i dorri 25% o’i chyllid yn yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr yr wythnos nesaf.

O hynny ymlaen, yr Ysgrifennydd Diwylliant fydd yn penderfynu faint o arian mae S4C yn ei gael bob blwyddyn.

Dywedodd Llywodraeth San Steffan eu bod nhw’n ei ystyried yn “anghynaladwy” parhau i gynnyddu cyllideb S4C yn flynyddol yn unol gyda chwyddiant.

Bydd yr newidiadau i S4C a’r cwangos eraill fydd yn cael eu torri yn eu gwneud nhw’n “fwy effeithiol ac atebol,” meddai Jeremy Hunt, Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth San Steffan.

“Bydd y newidiadau yma yn caniatáu i ni barhau i fwynhau diwylliant, cyfryngau a chwaraeon gorau’r byd, gan sicrhau gwell gwerth am arian i’r cyhoedd,” meddai.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw’n parhau i frwydro am “fargen deg ar gyfer S4C”.

“Rydym ni mewn cysylltiad agos gydag Ysgrifennydd Cymru ar y mater yma ac mae’n bwysig pwysleisio nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

“Mae S4C yn rhan bwysig o ddarlledu Cymru ac mae’n chwarae rhan bwysig wrth hybu a diogelu’r iaith Gymraeg.”

Ymateb S4C

Dywedodd llefarydd ar ran S4C fod rhaid trin y sianel fel unrhyw ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus arall a rhoi cyfle iddyn nhw gynllunio ar gyfer unrhyw doriadau.

“Ers 1982 mae ariannu S4C wedi cael ei ymgorffori mewn statud. Mae’r cysylltiad statudol yma wedi sicrhau sefydlogrwydd hir-dymor ac annibyniaeth olygyddol S4C, tra hefyd yn diogelu’r sianel rhag ymyrraeth wleidyddol,” meddai’r llefarydd.

“Darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yw S4C nid Adran o’r Llywodraeth. Dylid ymdrin â S4C yn yr un modd a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill ac i’r un amserlen.

“Drwy symud i sefyllfa lle mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu’r lefel o ariannu, mae’n hanfodol fod yr egwyddor a sefydlwyd ers blynyddoedd o weithredu annibynnol gan ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus yn dal i gael ei diogelu.

“Wrth gwrs, dylai’r cyhoeddiad heddiw gael archwiliad seneddol llwyr a phriodol.

“Mae S4C eisoes wedi cynnig i’r Adran Ddiwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon fod Awdurdod y Sianel yn cynnal adolygiad llwyr o’i gweithgareddau.

“Cred S4C ei bod yn hanfodol sicrhau gwasanaethau darlledu yn yr iaith Gymraeg i’r dyfodol.”

‘Siomedig’

Dywedodd llefarydd dros Llywodraeth Cynulliad Cymru eu bod nhw’n “siomedig” gyda’r cyhoeddiad.

“Rydyn ni’n siomedig iawn gyda’r penderfyniad heddiw i newid trefniadau ariannu S4C,” meddai llefarydd.

“Cafodd y rhain eu gosod trwy statud i sicrhau sefydlogrwydd ac annibyniaeth hirdymor y sefydliad.

“Ni ddylai’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon anwybyddu ei hymrwymiadau statudol tuag at y sianel nag anghofio bod S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, nid yn Adran y Llywodraeth neu gorff llywodraethol anadrannol.

“Dylid trin S4C yn yr un ffordd â darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill o ran y trafodaethau ynglŷn â’i dyfodol hirdymor a chyllido.

“Mae gan S4C ran allweddol i’w chwarae i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu. O ran hyn, nid darlledu’n unig yw ei swyddogaeth.

“Rydyn ni’n annog y llywodraeth i ymgymryd ag adolygiad llawn o drefniadau ariannu a gweithredu S4C iddyn nhw wneud penderfyniadau sy’n ystyried dyfodol hirdymor y sianel.”

Ymateb Plaid Cymru

“Mae cynlluniau’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol i dorri nôl ar faint o gyllid y mae S4C yn ei gael yn fygythiad i’r iaith Gymraeg, economi Cymru a diwylliant Cymru,” meddai Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru.

“Mae angen datganiad clir gan y llywodraeth ei fod o’n deall pwysigrwydd S4C fel sefydliad darlledu a’i gyfraniad at yr iaith Gymraeg a’r diwydiant creadigol.

“I nifer o blant dyma eu hunig gyfle i glywed yr iaith Gymraeg y tu allan i’r ysgol ac mae o’n hollol hanfodol er mwyn hybu’r Gymraeg fel iaith byw yn ein cymunedau.

“ Mae Plaid yn galw am adolygiad llawn i S4C cyn gwneud unrhyw benderfyniad i dorri’r gwasanaeth.

“Wrth gwrs fe fydden ni, mewn llywodraeth yma yng Nghymru, yn disgwyl chwarae rhan lawn yn yr adolygiad hwnnw.”

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y bydden nhw’n cynnal rali ‘Na i doriadau, Ie i S4C newydd’ ar Ddydd Sadwrn 6ed Tachwedd am 11yb, ym Parc Cathays, Caerdydd.

“Mae ein rhaglenni Cymraeg a’n gwasanaeth darlledu cyhoeddus yn y fantol. Bu ymgyrchwyr yn brwydro’n galed am reswm, sef i wneud yn siŵr fod cyllideb y sianel yn ddiogel mewn deddf,” meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Nawr mae’r arian yn cael ei reoli gan bobl sydd ddim yn deall mor werthfawr yw cael rhaglenni Cymraeg i ni.

“Maen nhw hefyd yn dilyn llwybr peryglus a fyddai’n tanseilio annibyniaeth y sianel, gan roi cymaint o rym dros sianel teledu mewn dwylo un gweinidog.

“Nawr mae dyfodol arian cyfryngau Cymraeg yn ddibynnol ar fympwy llywodraeth ddi-hid. Mae hyn yn arwydd cwbl glir bod angen datganoli’r cyfryngau a darlledu i Gymru.”