Peter Hain
Fe fyddai cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, yn fodlon cefnogi achos cyfreithiol i amddiffyn arian S4C.
Mae’n dweud y gallai cwmnïau teledu annibynnol ofyn am arolwg barnwrol os bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda’u bwriad i dorri ar wario’r sianel.
Mae wedi cael barn bargyfreithiwr amlwg, Clive Lewis QC, Prif Gwnsler Llywodraeth y Cynulliad, sy’n cadarnhau bod deddf gwlad yn gwarchod arian S4C gan addo cynnydd sy’n unol â chwyddiant bob blwyddyn.
‘Rhaid i’r Llywodraeth gadw’r gyfraith’
Fe ddywedodd AS Castell Nedd wrth Radio Wales ei fod wedi sgrifennu at Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn dweud mai ei dyletswydd hi yw gwneud yn siŵr fod y Llywodraeth yn ymddwyn yn gyfreithiol.
“Mae’n anghywir i’r Llywodraeth ymddwyn yn anghyfreithlon,” meddai. “Ac mae’n anghywir i’r Llywodraeth ymosod ar Gymru fel y gwnaeth yn gyson yn ystod y pedwar mis diwetha’, gyda rhagor i ddod adeg yr Arolwg Gwario Cynhwysfawr ar Hydref 20.”
Fe rybuddiodd y byddai torri ar wario S4C o gymaint â 25% mewn pedair blynedd yn tanseilio cynnyrch y sianel, yn gwneud drwg i’r iaith ac i’r diwydiant creadigol yng Nghymru.
Yr wybodaeth newydd
Roedd hi’n hysbys eisoes bod arian S4C wedi’i warchod gan y ddeddf; un elfen newydd yng nghyngor y bargyfreithiwr yw y byddai’n anghyfreithlon hefyd i’r sianel roi arian yn ôl i’r Llywodraeth.
Mae eisoes wedi gwneud hynny trwy dderbyn £2 filiwn o doriadau ac mae rhai wedi awgrymu y gallai’r Llywodraeth osgoi’r broblem gyfreithiol trwy ofyn i’r sianel ildio rhagor.
Yn ôl Peter Hain, fe fyddai hynny hefyd yn anghyfreithlon.
‘Dim byd newydd’
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i sylwadau Peter Hain gan ddweud eu bod nhw wedi bod yn dweud bod y toriadau yn anghyfreithlon ers misoedd.
“Rydym ni’n croesawu’r ffaith bod Llafur wedi dechrau deall y bygythiad go iawn ydan ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn ei gylch ers misoedd nawr,” meddai’r AS Hywel Williams.
“Mor bell yn ôl a mis Mai eleni dywedodd Plaid y byddai unrhyw doriadau yng nghyllideb S4C yn anghyfreithlon oherwydd bod Deddf Seneddol yn penderfynu ar gyllideb y sianel.
“Mae’n bechod bod ASau Llafur wedi bod mor araf i ymateb i hyn. Does dim angen datganiad yn ailadrodd beth sydd eisoes yn amlwg, ond ymgyrch wleidyddol.”