Iona Jones
Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi bod Iona Jones, Prif Weithredwr y Sianel, wedi gadael.
Dywedodd aelodau Awdurdod S4C mewn datganiad eu bod nhw’n diolch i Iona Jones, 46 oed, am ei gwasanaeth i’r Sianel.
Roedd hi wedi gadael yn dilyn cyfarfod o Awdurdod S4C. Doedden nhw ddim am wneud sylw pellach.
Bythefnos yn ôl datgelodd cylchgrawn Golwg fod 116,000 yn llai wedi gwylio’r sianel y llynedd, o gymharu gyda 2008.
Ond dywedodd Cadeirydd Awdurdod y Sianel wrth Golwg yr wythnos diwethaf bod y cwymp wedi bod yn “anochel” oherwydd bod mwy o sianeli yn cystadlu gyda S4C.
“Fyswn i ddim yn gwadu eich bod chi’n gweld gostyngiad, ond be’ sydd wedi digwydd… ydi twf y gystadleuaeth allan yn fan ‘na,” meddai John Walter Jones.
Iona Jones oedd pedwerydd prif weithredwr y sianel, a’r fenyw gyntaf. Penodwyd hi yn 2005 yn lle Huw Jones, oedd wedi bod yn brif weithredwr ar y sianel ers 12 mlynedd.
Roedd hi wedi ennill cyflog o £151,000 yn 2009, yn ôl adroddiad blynyddol y sianel.
Toriadau
Roedd adroddiad yn y wasg yr wythnos diwethaf yn awgrymu y byddai S4C yn derbyn 24% yn llai o grant o Lundain o’r flwyddyn nesa’ ymlaen.
Roedd papur newydd y Guardian yn honni bod adolygiad o wariant cyhoeddus Llywodraeth San Steffan ym mis Hydref eleni yn cadarnhau y byddai’r Sianel yn derbyn 24% yn llai o arian gan yr adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Mae S4C yn gwybod ers mis Mai y bydd yn wynebu toriad o £2m, o leia’, y flwyddyn nesa’.
Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, a chyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, eisoes wedi dweud eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â thoriadau S4C ac roedd Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio’r toriadau arfaethedig.
Gwylwyr S4C
Yn ol cwmni cyfrif gwylwyr BARB, dyma faint oedd yn gwylio S4C, ar gyfartaledd, am fwy na thair munud:
2003 – 1,141,000
2004 – 1,040,000
2005 – 919,000
2006 – 864,000
2007 – 731,000
2008 – 664,000
2009 – 549,000