Oherwydd argyfwng y coronafeirws bu’n rhaid i Elin Haf Jones a’i darpar ŵr Aled Vaughan-Jones ohirio eu priodas tan y flwyddyn nesaf.
Fel y rhan fwyaf o bobol mae Elin Haf Jones, sydd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cyw ar S4C, wedi gorfod addasu ei ffordd o fyw. Mae hi bellach yn ffilmio eitemau teledu i blant o’i hystafell fyw, tra bod ei dyweddi yn parhau i weithio ar y fferm odro deuluol.
Eglurodd Elin Haf Jones wrth Clonc360: “Mi oedd hi’n dorcalonnus gorfod gohirio’r briodas, ond ni’n gwybod mai dyna oedd y penderfyniad iawn.
“Mae iechyd teulu a ffrindiau yn dod gyntaf, ac nid ein lle ni oedd rhoi pwysau ar aelodau hŷn o’r teulu i orfod gwneud y dewis i fynychu ai peidio.”
Treuliodd Elin Haf Jones, sy’n wreiddiol o Faesycrugiau ger Llanybydder, fisoedd yn trefnu’r briodas oedd fod i gael ei chynnal ar fferm y teulu.
Er hyn, mae’n gwybod nad oedd dewis ganddynt ond gohirio, ar ôl i’r Eglwys yng Nghymru gyhoeddi fis Mawrth na fyddai modd cynnal priodasau. Penderfynodd y ddau, felly, symud y briodas i fis Mai’r flwyddyn nesaf – gan hefyd osgoi cyfnodau prysur ar y fferm.
Parti priodas dros Zoom
Dywedodd Elin Haf Jones fod teulu, ffrindiau a chydweithwyr wedi mynd ati i gyd-ganu a chreu fideo arbennig iddyn nhw.
“Ar beth fyddai wedi bod ein diwrnod priodas gathom ni’n dau ddiwrnod bant o’r gwaith a chynnal parti priodas dros Zoom gyda’r morwynion priodas, gweision priodas a theulu agos.
“Er na gathom ni ein dawns gyntaf mi oedd hi’n noson arbennig – yng nghanol y sgwrs dros y we dyma’r morwynion priodas yn dweud ei bod nhw wedi paratoi araith i ni, ac allan o unmnan dyma’r fideo ma’n ymddangos ar y sgrin!
“O’n i’n llefain a chwerthin bob yn ail. Ni di gwylio’r fideo sawl gwaith ers ni ac yn gweld rhywbeth gwahanol bob tro.
“Mae pawb wedi bod mor garedig yn gyrru negeseuon ac anrhegion i ni.”
Dyddiau gwell i ddod
I Elin ac Aled, mae’r gobaith y cawn nhw briodi fis Mai’r flwyddyn nesaf yn gysur iddynt drwy’r cyfnod cloi.
Ychwanegodd, “mae pawb wedi eu heffeithio mewn rhyw ffordd. Wrth gwrs mae gohirio’r briodas yn siom i ni, ond mewn gwirionedd ry’n ni’n lwcus iawn.
“Ac mae’n bwysig rhannu’r neges bwysig yna. Oes, mae dyddiau gwell i ddod!”