Mae Nathan Abrams, Athro Ffilm yn Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi argymell wyth ffilm am fod dan glo.
Daw awgrymiadau’r academydd yn sgil gwarchae sy’n rhan o ymateb Llywodraeth Prydain i’r coronafeirws.
Dyma’i argymhellion:
- A Clockwork Orange (1971). Yn y ffilm dadleuol yma gan Stanley Kubrick, mae Alex DeLarge yn cael ei anfon i’r carchar ond caiff ei ryddhau’n gynnar i gymryd rhan mewn arbrawf a adwaenir fel Techneg Ludovico. Ffurf ar therapi anghymell ydyw, sy’n seiliedig ar therapïau’r seicolegydd blaenllaw B.F. Skinner (a ymwelodd â Phrifysgol Bangor, gyda llaw).
- Unrhyw ffilm am Alfred Dreyfus. Iddew o Ffrancwr a Swyddog Milwrol a fu o flaen ei well mewn llys milwrol a hynny ar gam ac yntau’n ddieuog ac a gafodd ei ddedfrydu i 35 mlynedd ar yr erchyll Devil’s Island yng Ngiana Ffrengig. Yn ffodus, cafodd ei ddedfryd ei gwrthdroi ac mi gafodd ei ryddhau. Mae nifer o fersiynau ffuglenol wedi ymddangos ar y sgrin fawr: cynhyrchodd Pathé The Dreyfus Affair yn 1899, a bu dwy ffilm Dreyfus ym 1930 a 1931, ac yna The Life of Emile Zola ym 1937, I Accuse ym 1958, Prisoner of Honor ym 1991 ac An Officer and a Spy y llynedd.
- Escape from Alcatraz (1979). Dyma ffilm a seiliwyd ar stori wir, sy’n olrhain yr unig ddihangfa lwyddiannus, yn ôl y sôn, o’r carchar enwog yng Nghaliffornia. Clint Eastwood yw seren y ffilm ac ef yw’r un sy’n dyfeisio’r cynllun manwl ac yn ei roi ar waith.
- The Simpsons. Yn “Krusty Gets Busted,” caiff Krusty’r Clown ei garcharu ar gam am ladrad arfog. Dyma Bart a Lisa’n cynnal eu hymchwiliadau eu hunain, ac yn darganfod mai’r gwir droseddwr yw ei bartner, Sideshow Bob. Yn ddiweddarach mae Krusty’n cynnal Sioe Arbennig o’r Carchar.
- Stir Crazy (1980). Yn y ffilm gomedi hon, caiff dau gyfaill, Gene Wilder a Richard Pryor, fai ar gam am ladrad banc. Maent yn ffoi mewn rodeo.
- Midnight Express (1978). Ffilm filain a chignoeth, am brofiadau myfyriwr o America a gafodd ei garcharu am geisio smyglo cyffuriau, ond a lwyddodd i ddianc ac adrodd ei hanes.
- The Shawshank Redemption (1994). Addasiad o nofel fer gan Stephen King yw hon ac mae’n aml yn cael ei phleidleisio ymhlith y 10 ffilm orau erioed. Fel Escape from Alcatraz, mae carcharor yn llwyddo trwy ryfedd wyrth i ddianc a chyffwrdd â bywydau ei gyd-garcharorion tra mae’n gaeth yn y carchar.
- Papillon (1973). Stori wir arall am fywyd y carchar a Steve McQueen yn serennu, fel dyn sy’n wych am agor sêffs. Caiff y llysenw ‘Papillon’ (iâr fach yr haf mewn Ffrangeg) oherwydd y tatŵ sydd ar ei frest. Cafodd yntau hefyd ei garcharu ar gam a’i anfon i Giana Ffrengig, a dianc oddi yno.