Bydd yna “fwlch” yn y byd cyhoeddi llyfrau Cymraeg oherwydd coronafeirws – ond “blaenoriaeth” Cyngor Llyfrau Cymru yw sicrhau y bydd y gweisg llyfrau yn dal i fodoli pan fydd yr argyfwng yn dod i ben.

“O ran cyhoeddi, rydan ni’n colli pethau pwysig o ran Eisteddfod yr Urdd – a’r Eisteddfod Genedlaethol, o bosib – byddwn ni’n colli cerrig milltir pwysig yn y flwyddyn gyhoeddi,” meddai Arwel Jones, Swyddog Grantiau Cymraeg y Cyngor.