Mae gwasanaeth S4C i bobl ifanc Hansh wedi denu miliwn o sesiynau gwylio mewn mis ar draws Twitter, Facebook a YouTube am y tro cyntaf.

Cafodd Hansh ei lansio ym mis Mehefin 2017 gyda’r bwriad o gynnig platfform a chynnwys i bobol ifanc 16–34 oed.

Ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi datblygu o fod yn gweithredu ar Facebook a YouTube yn unig i fod yn creu cynnwys ar Instagram a TikTok yn ogystal â chreu podlediadau.

Y mis hwn, mae’r cynnwys wedi denu ystadegau uchel ar draw y platfformau i gyd.

Y deunydd poblogaidd

Denodd fideo Tisio Salwch 110,000 o sesiynau gwylio ar Facebook, tra bod fideo oedd yn cynnwys Bootlegger, cymeriad ar Twitter, wedi denu 280,000 o sesiynau gwylio ar y platfform.

Ymysg y cymeriadau a’r fideos sydd fwyaf poblogaidd ar Hansh mae Gareth yr Orangutan, Tishio grêp a chymeriadau dychanol yr actor Geraint Rhys Edwards.

Yn sgil llwyddiant ei gymeriadau, mae Geraint Rhys Edwards yn gweithio ar raglen gomedi ar gyfer S4C, Cymry Feiral.

Yn ogystal ag elfennau comedi, mae Hansh wedi cynhyrchu cyfres o raglenni dogfen gan gynnwys rhaglen am y dylanwadwr Niki Pilkington, Garmon Ion a phobol Patagonia a Ffoadur Maesglas, oedd yn dilyn hanes dau ffoadur o Syria sef Muhamed a’i fab Shadi.

Ar ben hyn, mae Hansh wedi datblygu Dim Sbin, sy’n trafod newyddion a materion cyfoes.

“Dwi’n falch iawn o weld sut mae Hansh wedi datblygu ac mae’r ffigurau yma yn profi fod y cynnwys sy’n cael ei greu yn taro deuddeg gyda’n cynulleidfa,” meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C.