Mae’r aedur a’r actores Ruth Jones wedi datgelu ei bod wedi defnyddio ei nith naw oed i geisio cadw rhaglen Nadolig, Gavin & Stacey yn gyfrinach.

Mae’r sitcom yn dychwelyd am raglen Nadolig, naw mlynedd wedi i’r gyfres ola’ ddod i ben.

Creodd Ruth Jones y sioe ar y cyd â James Corden a chyhoeddodd y ddau fod y sioe yn dychwelyd am raglen Nadolig ym mis Mai eleni.

Mae Ruth Jones, sy’n chwarae rhan Nessa, wedi datgelu sut mae hi wedi bod yn cadw’r sioe yn gyfrinach.

Tra ar archwiliad strategol i dref Barri, lle mae’r sioe wedi ei seilio, aeth Ruth Jones gyda’i nith i allu ei defnyddio petai pobol yn holi pam ei bod hi yno.

Ond mewn gwirionedd roedd hi yno i ymweld â pherchennog y tŷ a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglen.

“Pan dw i wedi bod yn ôl i Barri, mae yno bobol yn cymryd lluniau tu allan i’r tŷ ac os ydyn nhw’n fy ngweld i, maen nhw’n dueddol o fod eisiau llun,” meddai Ruth Jones.

“Ond pe bae’n nhw’n fy ngweld ar ben fy hun, fe fyddai hynny yn amheus, felly mi es i gyda fy nith naw oed.”