Mae Leanne Wood wedi llongyfarch ysgol gynradd Gymraeg yn y Senedd am gael eu dewis i ganu yn hysbyseb deledu Nadolig Marks and Spencer.
Manteisiodd Leanne Wood ar y Datganiadau 90 eiliad i dynnu sylw at lwyddiannau diweddar côr Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn y Rhondda, gan gynnwys cael eu dewis i ganu yn hysbyseb Nadolig Marks & Spencer.
Maen nhw i’w clywed yn canu ‘Albatross’ gan Fleetwood Mac, wrth i Paddy McGuinness ac Emma Willis siarad.
‘Talent newydd’
“Hoffwn i’n Senedd gydnabod y doniau canu sydd gyda ni yn y Rhondda,” meddai Leanne Wood.
“Rydym yn adnabyddus am ein corau meibion byd-enwog, ac mae eu galluoedd yn ddigon cyfarwydd i bawb.
“Ond mae’n wych gweld bod talent newydd wedi dod i’r amlwg. Mae côr Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn wedi bod yn ennill tipyn o enw iddo ei hun dros y blynyddoedd diwethaf.
“Daethant yn gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ac maen wedi eu coroni’n Gôr Ifanc y Flwyddyn BBC Songs of Praise. Eu cyflawniad anhygoel diweddaraf yw cael eu dewis i ganu ac ymddangos ar hysbyseb deledu Marks and Spencer ar gyfer y Nadolig.
“Bydd y gân a recordiwyd ganddynt, sef fersiwn o ‘Albatross’ gan Fleetwood Mack, yn cael ei chwarae o leiaf unwaith yr awr ym mhob safle Marks and Spencer, ac bydd miliynau o bobl yn rhagor yn eu clywed ar y teledu dros yr wythnosau nesaf.
“Os yw hynny’n swnio fel gormodedd i chi, dydych chi ddim wedi clywed eu lleisiau hyfryd. Mae’n wirioneddol arbennig, ac rydw i wedi cael y fraint o’u clywed nifer o weithiau dros y blynyddoedd.
“Efallai fod y disgyblion yn newid, ond yr un yw’r rhagoriaeth. Rwy’n falch iawn o weld y genhedlaeth nesaf o gantorion yn y Rhondda.
“Hir oes i’r canu coeth: llongyfarchiadau Llwyncelyn!”