Mae’r broses o adfer organ unigryw Capel Soar ym Merthyr Tudful wedi cychwyn.
Cafodd ei hadeiladu yn y capel yr 1880au, ond does neb wedi ei chanu ers 1999.
Mae’r organ unigryw hon yn o ddwy yng ngwledydd Prydain sy’n cael eu pweru â dŵr.
Gyda chymorth arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, y bwriad yw gwneud yr organ yn berthnasol i fywydau pobol yn y gymuned leol, ac yn gyfrwng i ddysgu am hanes Cymraeg a cherddoriaeth y dref.
Y Gymraeg ‘yn rhan fawr o fywyd yr organ’
Meddai Lis McLean, rheolwraig Canolfan a Theatr Soar, sef cartref yr organ:
“Dy’n ni’n Ganolfan Gymraeg ac rydyn ni’n ymgysylltu gyda’r gymuned trwy dreftadaeth a’r celfyddydau, felly rydyn ni’n edrych arno fe [yr organ] o ran adfywio’r Gymraeg, a’r ffaith fod y Gymraeg yn rhan fawr o fywyd yr organ, a’r bobl oedd yn chwarae’r organ flynyddoedd yn ôl,” meddai Lis McLean, rheolwraig Canolfan a Theatr Soar wrth golwg360.
“Dy’n ni wedi cynllunio prosiect tair blynedd a fydd yn ymgysylltu gyda’r gymuned, gyda phobl ifanc, plant ac oedolion i godi ymwybyddiaeth am hanes yr organ, hanes y chwaraewyr, a’r hanes mecanyddol.
“Cafodd ei redeg gan ddŵr, gwynt, a thrydan. Mae e’n organ eitha’ unigryw, achos does dim llawer ohonyn nhw i’w cael gyda phwmp dŵr Fictoraidd. Dim ond un arall sydd ym Mhrydain.”
Codi ymwybyddiaeth am dreftadaeth yn y gymuned
“Beth ‘dy’n ni’n trio ei wneud yw gwneud yr organ yn berthnasol i bobl heddiw, ac ‘dy’n ni’n gwneud hynny trwy weithgareddau.
“Mae’r gweithgareddau yma yn tynnu sylw plant at y tebygrwydd rhwng organ sy’n anadlu sy’n rhedeg gyda gwynt a rhai sy’n rhedeg gyda dŵr, a sut mae e’n gallu cael ei gymharu â chorff rhywun.
“Mae e’n brosiect llawer mwy cynhwysfawr nag y byddai pobl yn meddwl. Dyw e ddim jyst am chwarae’r organ a dathlu hanes yr organ, mae e hefyd am wneud yr organ yn berthnasol i’r gymuned heddiw.
“Pan fydd y prosiect yn dechrau, dwi’n siŵr y byddwn ni’n darganfod llawer mwy o bethau am hanes Merthyr hefyd.”