Mae James Corden yn dweud y bydd y bennod Nadoligaidd arbennig o Gavin & Stacey eleni yn llawn “nostalgia a llawenydd”.
Bydd y gyfres boblogaidd ar y BBC, sydd wedi’i lleoli yn y Barri ac Essex, yn dychwelyd am rifyn arbennig naw mlynedd ar ôl iddi ddod i ben.
“Roedden ni am weld os oedd yna rywbeth yn dal yno ac am sbel, doedden ni ddim yn siŵr,” meddai James Corden, cyd-awdur y gyfres gyda Ruth Jones.
“Ond unwaith roedd yna rywbeth, fy nheimlad i oedd fod bywyd yn rhy fyr.
“Ofn yw’r union reswm dros ei wneud e.”
Mae’n dweud na fydd y bennod yn canolbwyntio ar Brexit, a bod y criw yn dymuno i’r bennod fod yn “fom llawenydd a nostalgia”.
Mathew Horne a Joanna Page sy’n chwarae’r prif gymeriadau yn y gyfres, sydd hefyd yn serennu James Corden, Ruth Jones, Rob Brydon, Larry Lamb, Melanie Walters ac Alison Steadman.
Cafodd tair cyfres eu darlledu rhwng 2007 a 2010, ynghyd â rhifyn Nadoligaidd arbennig.
Mae’n adrodd hanes cwpl sy’n cwympo mewn cariad ar ôl bod yn sgwrsio dros y ffôn yn y gwaith bob dydd.
Roedd mwy na 10.2 miliwn o bobol wedi gwylio’r bennod Nadoligaidd ddiwethaf.