Mae oriel newydd sy’n arddangos gweithiau celf o Gymru, yn ogystal â gwerthu coffi Cymreig, wedi agor yn un o drefi’r canolbarth.

Bydd Oriel Coffi, sydd wedi ei lleoli yn y Stryd Fawr yn Llanidloes, yn agor yn swyddogol i’r cyhoedd heddiw (dydd Gwener, Mehefin 7).

Ymhlith y gweithiau ar y waliau mae rhai gan artistiaid Cymreig enwog, gan gynnwys y pêl-droediwr, Owain Fôn Williams, a’r artist o Sir Benfro, Sarah Jane Brown.

Yn ôl Iestyn Penri, sy’n rheoli’r oriel ar y cyd â’i wraig, Jenna, y nod yw gosod amrywiaeth o weithiau celf Cymreig o dan un to yn y canolbarth.

“Dw i wedi sefydlu [yr oriel] ar gefn busnes arall sydd gen i, sef Welsh Framing Supplies,” meddai Iestyn Penri wrth golwg360.

“Rydyn ni’n dosbarthu nwyddau yn wythnosol dros Gymru i’r diwydiant fframio lluniau ac, o hynna, dw i wedi gweld lot o waith dros y wlad i gyd, ac roedden i’n meddwl y byddai’n grêt i ddod a’r cwbwl ar ei gilydd yn y canolbarth…

“Does dim lot yn lleol i gystadlu yn erbyn, felly roedd yn agoriad i ni, braidd.”