Mae’r darpar-Archdderwydd ar fin cyhoeddi casgliad newydd o farddoniaeth er mwyn cyd-fynd ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’i ardal enedigol yn Llanrwst ym mis Awst.
Pentre Du, Pentre Gwyn yw seithfed cyfrol o farddoniaeth Myrddin ap Dafydd ar gyfer oedolion, ac mae’n ei disgrifio fel “rhyw fath o ddyddiadur” o’i fywyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r cerddi eu hyn yn cwmpasu nifer o wahanol bynciau, gyda rhai yn gerddi teuluol a lleol, ac eraill yn fwy cenedlaethol a rhyngwladol eu hapêl.
“Dw i’n falch iawn, iawn bod gynnon ni yng Nghymru draddodiad lle mae galw am waith beirdd, ac mae hynny i’w weld yn y gyfrol yma lle dw i wedi cael comisiynau a lle mae pobol yn teimlo yn rhydd iawn i droi at fardd i ofyn am gerdd ar gyfer gwahanol achlysuron,” meddai Myrddin ap Dafydd wrth golwg360.
“Mae’r rheiny yn gallu bod yn amrywiol iawn, iawn, ond mae’n dangos bod yna rôl gymdeithasol i farddoniaeth yn y Gymraeg o hyd, ac mae hwnna’n beth prin iawn yn niwylliannau’r Gorllewin erbyn hyn.”
Gair a llun
Mae’r gyfrol wedi ei dylunio gan Olwen Fowler, ac mae Myrddin ap Dafydd yn credu bod cynnwys lluniau ochr yn ochr â’r cherddi yn ychwanegu at yr ystyr.
“Mae defnydd o luniau yn medru cwtogi ar y defnydd o eiriau,” meddai Myrddin ap Dafydd.
“Mae lluniau yn gallu ychwanegu lefel arall o gyflwyno a dw i’n gobeithio bod gweld y lluniau a gweld gwaith celf Olwen yn cyflwyno cefndir rhai o’r cerddi yma…
“Rydyn ni’n lwcus iawn yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae yna do cyffrous iawn o ddylunwyr a darlunwyr, a phobol ifanc sydd â doniau celfyddydol cryf.
“Dw i’n meddwl y gwelwn ni, gobeithio, fwy a mwy o bontio rhwng y celfyddydau yng Nghymru.”
Pentre Du, Pentre Gwyn
Cerdd deyrnged i’r diweddar Athro Gwyn Thomas yw gwraidd teitl y gyfrol ac, yn ôl y bardd ei hun, mae’n gyfeiriad hefyd at y ddau enw sydd gan bentref Betws y Coed, wrth i un ochr y pentref gael ei galw’n ‘Bentre Du’ a’r ochr arall yn ‘Bentre Gwyn’.
“Dw i’n meddwl bod y ddeuoliaeth yna – y gwyn a’r du, yr Annwn a’r baradwys – yn amlwg iawn yng ngwaith Gwyn Thomas, a dyna beth sydd yn y gerdd a gyflwynais iddo fo…
“Ar ôl dod yn ôl at y gerdd honno, dw i’n meddwl bod yna dduwch bygythiol arnom ni o hyd, ond bod yna le gwyn inni anelu ato fo.
“Rydan ni mewn cyfnod cyffrous iawn yn ein hanes – peryglus iawn hefyd. Ond dw i’n meddwl bod yna lwybr inni ac mae yna awgrymiadau yma ac acw [yn y gyfrol] lle dw i’n gweld y gobaith hwnnw yn y Gymru sydd ohoni.”
Dyma glip o Myrddin ap Dafydd yn darllen un o gerddi’r gyfrol…