Mae Christian Bale yn dweud ei fod yn gofidio am ei “farwoldeb” am ei fod yn newid ei bwysau’n gyson ar gyfer ei waith fel actor.
Mae’r actor a gafodd ei eni yn Hwlffordd yn chwarae rhan Dick Cheney, cyn-ddirprwy arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ei ffilm newydd Vice, sy’n golygu ei fod e wedi gorfod magu pwysau.
Mae e wedi magu pwysau sylweddol ar gyfer y ffilmiau American Hustle a The Big Short yn y gorffennol.
Fe gollodd e naw stôn cyn ffilmio The Machinist, ac fe fu’n rhaid iddo fe fagu pwysau eto cyn ffilmio’r ffilmiau Dark Knight yng nghyfres Batman.
“Alla i ddim ei wneud e o hyd, wir yr” meddai wrth gylchgrawn Culture yn y Sunday Times.
“Mae fy marwoldeb yn syllu i fy wyneb.”
Mae’n dweud iddo gael cyngor ei gyd-actor Gary Oldman wrth fagu a cholli pwysau – a chael gwybod nad oedd ei bwysau wedi newid a theimlo’n ffôl wedyn, meddai.
Effaith ar ei deulu
Mae’n dweud ei fod yn cydymdeimlo â’i wraig Sibi Blazic.
“Dim ots beth sy’n digwydd, mae fy ngwraig wedi ei weld e,” meddai.
“Roedd fy mab yn dwlu ar y bola. Byddai e’n neidio i fyny ac i lawr dipyn ac yn ei benio a bownsio oddi arno fe a chwympo i’r llawr.”