Roedd actorion o Gymru ymhlith y sêr a gafodd lwyddiant yn y Golden Globes dros nos.

Cafodd y seremoni wobrwyo flynyddol, sy’n un o binaclau’r flwyddyn ar gyfer diwydiant ffilm a theledu’r byd, ei chynnal yn Beverly Hills, Califfornia.

Y ffilm Bohemian Rhapsody oedd un o enillwyr mawr y noson, gyda’r cynhyrchiad ei hun yn derbyn y wobr am y ddrama orau a Rami Malek yn cael ei enwi yr actor gorau am ei bortread o Freddie Mercury.

Ond o ran llwyddiant y Cymry, fe dderbyniodd Christian Bale, sy’n enedigol o Hwlffordd, wobr yr actor gorau mewn comedi neu sioe gerddorol am ei ran fel cyn-Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Dick Cheney, yn Vice.

Yn derbyn y wobr am y ddrama deledu orau oedd The Americans, sy’n cynnwys yr actor o Gaerdydd, Matthew Rhys, a enillodd Emmy am ei ran yn y gyfres Netflix ychydig fisoedd yn ôl.

Roedd hefyd wedi’i enwebu ar gyfer gwobr yr actor gorau mewn cyfres ddrama deledu.

Wrth gael ei wobrwyo am yr actor gorau mewn cyfres deledu wedyn, fe gyflwynodd Michael Douglas, seren y gyfres Netflix, The Kominsky Method, y wobr i’w wraig o Abertawe, Catherine Zeta Jones, yn ogystal â’i dad, Kirk Douglas, sy’n 102 oed.

Gwobrau eraill

Ymhlith yr actorion eraill o wledydd Prydain sydd ag achos i ddathlu heddiw mae Olivia Colman, a gipiodd y wobr am yr actores orau  am ei phortread o’r Frenhines Anne yn y ffilm The Favorite.

Aeth gwobr yr actor gorau mewn cyfres ddrama deledu i’r Albanwr Richard Madden – seren The Bodyguard – tra bo Sandra Oh wedi derbyn yr un wobr i actores am ei rhan yn Killing Eve.

Un arall a gafodd lwyddiant oedd Ben Wishaw, a gafodd ei enwi yr actor cynorthwyol gorau am ei bortread o Norman Scott yn A Very English Scandal, sy’n olrhain ei berthynas honedig â chyn-arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn yr 1970au, Jeremy Thorpe.