Mae gan ymgeiswyr lai nag wythnos bellach i wneud cais ar gyfer Ysgoloriaeth Patagonia Gymraeg 2019-2020.
Mae Cyngor Tref Ffestiniog, sydd wedi gefeillio â thref Rawson ers 2015, yn cynnig yr ysgoloriaeth i unigolyn rhwng 16-30 oed sy’n byw o fewn ffiniau’r Cyngor Tref er mwyn cael teithio i’r Wladfa.
Pwrpas yr ysgoloriaeth o £2,000 yw cryfhau’r berthynas rhwng Ffestiniog a Rawson.
Y dyddiad cau yw dydd Gwener, Ionawr 11, a bydd enw’r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 1, gyda’r ysgoloriaeth yn cael ei chyflwyno’n swyddogol y mis canlynol.
Mae’r ysgoloriaeth yn cael ei chynnig ar ffurf cystadleuaeth traethawd ysgrifenedig sydd heb fod dros 1,500 o eiriau, ac sy’n amlinellu pam fod yr ymgeisydd yn awyddus i ymweld â’r Wladfa, beth mae’n bwriadu ei wneud yno a sut fydd profiadau’r ymgeisydd yn cael eu rhannu â’r gymuned ar ôl dod adref.