Mi wnaeth comedïwr o Gwm Tawe greu tipyn o argraff ar feirniaid rhaglen Britain’s Got Talent nos Sadwrn ddiwethaf.
Cafodd Noel James, sy’n wyneb adnabyddus mewn nosweithiau comedi Cymraeg, sêl bendith y pedwar beirniad – David Walliams, Alesha Dixon, Simon Cowell ac Amanda Holden.
Ond er ei fod wedi plesio’r beirniaid, dydy’r comedïwr ddim yn gwybod eto a fydd e’n cael lle yn yr ail rownd.
Bu Noel James yn agos iawn i geisio yn y gystadleuaeth dair blynedd yn ôl, ond fe newidiodd ei feddwl ar y funud olaf.
Y tro hwn, mae’n gobeithio y bydd cymryd rhan yn y rhaglen, sy’n denu degau o filiynau o wylwyr, yn codi ei broffil.
Troi’n ôl
“Es i am glyweliad cwpl o flynyddoedd yn ôl yng Nghaerdydd ond wrth i fi gyrraedd yr adeilad, troais i nôl,” meddai wrth golwg360.
“Pan ry’ch chi’n edrych ar raglen fel Britain’s Got Talent, mae’n frawychus iawn i feddwl eich bod chi’n gorfod sefyll o flaen y beirniaid.
“Mae ganddyn nhw reputation, yn enwedig Mr. Cowell, o fod yn eitha’ onest a does dim chwarae o gwmpas gyda nhw.
“Roedd cymaint o fraw gyda fi, 2015 fi’n credu oedd e, wnes i droi rownd a mynd adre’.”
‘Dim byd i’w golli’
Ychwanegodd: “O’n i’n meddwl, af i amdani y tro hwn achos roeddwn i’n cyrraedd pwynt yn fy mywyd lle ro’n i’n dechrau poeni am be’ fi’n mynd i wneud, does dim pensiwn ‘da fi, doedd dim cymaint â hynny o waith ‘da fi yn y dyddiadur ar gyfer y dyfodol.
“Oedd lot o ffactorau yn dweud i fi fi’n mynd i gael go a mynd amdani, does dim byd gen i golli ac os fi’n gwneud ffŵl o fy hunan, does dim ots achos mewn blwyddyn galla’ i ail-hyfforddi i ddysgu Saesneg fel ail iaith a mynd i Saudi Arabia neu rywle fel yna. Roedd hwnna’n rhywbeth roeddwn i o ddi-rif yn ystyried gwneud.”
“… Fi ‘di cael mwy o sylw, fi ‘di cael pump neu chwe gig wedi bwcio ers i’r sioe gael ei darlledu, ac mae hwnna’n lot mwy na fi’n cael fel arfer mewn un wythnos.
“… Ond ‘falle bydd hwn yn mynd yn oer nawr o fewn pythefnos, dw i ddim yn gwybod os mai jyst rhywbeth dros dro fydd hwn, cawn weld.
“Mae’n edrych yn bositif ar y foment, does dim byd negyddol wedi dod allan ohono fe, dim ond pethau positif hyd yn hyn.”