Mae’r actor James Franco wedi ei gyhuddo gan dair o ferched o gamymddwyn yn rhywiol, gyda’r cyhuddiadau hyn yn cael eu gwneud yn gyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cafodd y cyhuddiad cyntaf ei wneud yn erbyn yr actor – a dderbyniodd wobr yn seremoni’r Golden Globes nos Sul am ei ffilm The Disaster Artist – gan yr actores Ally Sheed, a wnaeth gyfeirio at ei enw ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnod “Fi hefyd”.
Serch hynny, nid oedd ei thrydariad yn datgelu dim rhagor o wybodaeth, ac fe gafodd ei ddileu yn fuan iawn wedyn.
Ond mae’r actores Violet Paley a’r cynhyrchydd ffilm, Sarah Tither-Kaplan, hefyd wedi ei gyhuddo ar Twitter am achosion o gamymddwyn yn rhywiol yn y gorffennol.
Cyhuddiadau “ddim yn gywir”
Ers hynny, mae James Franco wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn mewn cyfweliad ar y teledu yn yr Unol Daleithiau, gan ddweud ei fod yn berson sy’n cymryd cyfrifoldeb dros yr hyn mae’n ei wneud.
“Mae’r pethau dw i wedi wedi eu clywed ar Twitter ddim yn gywir”, meddai. “Ond dw i’n llwyr gefnogi pobol sy’n dod allan ac yn manteisio ar yr hawl i ddefnyddio llais, achos doedd ganddyn nhw ddim llais ers amser hir.
“Felly dw i ddim eisiau eu cau nhw i lawr mewn unrhyw ffordd. Dw i’n meddwl ei fod yn beth da a dw i’n ei gefnogi.”
Roedd James Franco i fod i siarad am ei ffilm ddiweddar, The Disaster Artist, mewn digwyddiad yn Efrog Newydd. Ond ers hynny, mae’r trefnwyr wedi ei ohirio yn dilyn y “cyhuddiadau diweddaraf”.