Yr awdures Abi Morgan, enillydd Gwobr Siân Phillips yng ngwobrau BAFTA Cymru (Llun: Bafta Cymru/Shutterstock)
Mae’r actor Doctor Who, Peter Capaldi wedi dweud wrth golwg360 ei fod e’n “edmygwr mawr” o waith yr awdures o Gymru, Abi Morgan, enillydd Gwobr Siân Phillips yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni.
Mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei gweithiau The Iron Lady a Suffragette.
A hithau bellach yn byw yng ngogledd Llundain, dychwelodd Abi Morgan i Gaerdydd, y ddinas lle cafodd hi ei geni, i dderbyn y wobr gan yr actor sy’n gadael ei rôl fel Doctor Who ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd Peter Capaldi wrth golwg360: “Ro’n i wrth fy modd pan wnaethon nhw ofyn i fi [gyflwyno’r wobr] oherwydd dw i’n edmygwr mawr o Abi Morgan. Dw i’n credu ei bod hi’n wych.
“Dw i wedi cael y pleser o weithio gyda hi a hefyd, mae hi’n ffrind i fi.”
Eglurodd nad oedd Abi Morgan yn gwybod y byddai’n cyflwyno’r wobr iddi.
“Fe ddes i ar ei thraws hi yn y gwesty yn gynharach yn y noson, ac fe feddyliais i: “Beth fydda i’n ei ddweud wrthi?” Fe ddywedais i fod Doctor Who wedi’i enwebu am nifer o wobrau – ac mi oedd e – ac roedd hi’n credu hynny.”
‘Hyfryd cael bod yn ôl yng Nghaerdydd’
Ychwanegodd Abi Morgan: “Mae’n hyfryd cael bod yn ôl yng Nghaerdydd ar ôl cyhyd.
“Mae’n anhygoel cael bod mewn ystafell gyda’r fath dalent rhagorol. Dw i’n teimlo’n freintiedig o gael bod yma.
“Mae’r wobr yn golygu cymaint i fi. Rhan fwya’r amser pan y’ch chi’n ennill gwobr, ry’ch chi’n ei hennill am rywbeth penodol felly mae gyda chi restr o bobol i ddiolch iddyn nhw.
“Ond yr hyn ro’n i wedi gallu ei wneud yma oedd diolch i’r bobol dw i’n eu caru, sef fy ngŵr a’m plant. Felly roedd hynny’n arbennig oherwydd mae’n teimlo fel ’mod i’n asio fy mywyd proffesiynol gyda fy mywyd personol. Roedd hi’n hyfryd cael dangos i’r plant lle ces i fy magu.”
Gwaith ar y gweill
Ar hyn o bryd, mae Abi Morgan yn gweithio ar gyfres o’r enw The Split, sy’n trafod hynt a helynt criw o gyfreithwyr benywaidd sy’n arbenigo mewn ysgariad, yn ogystal â fersiwn arbennig o Silence of the Lambs i fenywod.
Ond pe bai hi’n cael dewis ysgrifennu ar gyfer un gyfres, Doctor Who fyddai’r gyfres honno, meddai.
“Dw i’n credu ei fod yn hyfryd fod Peter a holl ddiwylliant Doctor Who wedi dod mor bwysig ac mae’n dibynnu ar Gaerdydd fel prifddinas i greu’r sioe honno.
“Roedd hi’n fraint cael Peter yma heno. Dw i wrth fy modd gyda Doctor Who.
“Dw i’n difaru na alla’i ysgrifennu ar gyfer Doctor Who. Ond mae’n llawer iawn rhy gymhleth i fi. Ond dw i wedi bod wrth fy modd yn ysgrifennu i Peter yn y gorffennol ac roedd hi’n fraint ei gael e yma.”
Siân Phillips wedi ei hysbrydoli
Ychwanegodd Abi Morgan ei bod hi’n fraint cael ennill gwobr sy’n dwyn enw Siân Phillips, sydd ag “ysbryd anhygoel”.
“Mae hi’n eich atgoffa fod gyda chi sawl bywyd yn y theatr. Dw i’n ei chael hi, ar lefel bersonol, yn ysbrydoliaeth fawr oherwydd dw i byth eisiau ymddeol. A dw i ddim yn meddwl y bydd Siân Phillips byth yn ymddeol.
“Ro’n i’n ffan fawr ohoni ar y teledu. Dw i’n cofio – rhaid ’mod i’n ryw wyth oed – gwylio pennod o I, Claudius heb ddeall dim ond wedi cael fy swyno.
“Mae’n golygu cymaint i fi i gael fy enw yn yr un frawddeg â hi. Mae hynny’n fraint.”
Dyfodol y cyn-Ddoctor
Wrth i gyfnod Peter Capaldi yn chwarae cymeriad Doctor Who ddirwyn i ben ddiwedd y flwyddyn, roedd e’n awyddus i roi cyngor i unrhyw un sydd am fentro i fyd ffilm a theledu.
“Dw i’n credu mai’r peth pwysig yw dweud wrth bobol, os ydych chi’n dod o Gymru neu’r Alban neu Ogledd Iwerddon neu Loegr, dydy’r ffaith nad ydych chi’n dod o Lundain nac o le sydd â thraddodiad o wneud ffilmiau neu o waith creadigol ddim yn golygu na allwch chi ei wneud e.
“Mae gwobrau fel hyn yn dangos cynifer o bobol sydd wedi dod yn hynod lwyddiannus ar lefel ryngwladol. Fel anogaeth i’r gymuned leol, dw i’n credu eu bod nhw’n hanfodol ac fe ddylai fod mwy ohonyn nhw.
“Rhaid i bobol ddeall fod y celfyddydau ar eu cyfer nhw. Dyw e ddim yn rhywbeth sy’n bell i ffwrdd heb eich bod chi’n gallu cael mynediad iddo fe.”
Doctor Who – cynhyrchiad Cymreig
Cynhyrchiad Cymreig go iawn yw Doctor Who, yn ôl Peter Capaldi, fydd yn cael ei ddisodli yn oes nesa’r Doctor gan Jodie Whitaker, y ferch gyntaf i ymgymryd â’r rôl.
“Mae’r criw sydd gennym yn Gymreig ar y cyfan, ac mae hynny ond yn briodol. Maen nhw’n gweithio ar lefel uchel ac yn hogi eu sgiliau y mae galw amdanyn nhw’n rhyngwladol.
“Mae pobol yn dal i gofio Cymru fel gwlad nad oedd hi’n brysur. Ond mae tipyn yn digwydd yma bellach. Ond mae cofio pan oedd hi’n dawel yn gwneud iddyn nhw werthfawrogi’r gwaith yn fwy.”
A beth am y ddynes gyntaf yn y rôl?
“Mae Jodie yn hyfryd. Dw i’n credu y bydd hi’n arbennig. Mae hi’n actores ragorol a dw i’n credu y bydd hi’n cael hwyl arni. Dw i’n ffyddiog y bydd pobol yn mwynhau ei chyfnod hi yn chwarae’r Doctor.”