Huw Edwards gyda gwobr BAFTA Cymru
Mae cyfanswm o 55 o gynhyrchiadau wedi derbyn o leiaf un enwebiad ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru (BAFTA) fydd yn cael eu cynnal ym mis Hydref.
Un o themâu mwyaf y gwobrau fydd y teyrngedau i nodi hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan yn 1966.
Mae ffilm Aberfan: The Green Hollow wedi derbyn saith enwebiad gan gynnwys Michael Sheen fel yr actor gorau ac Eiry Thomas fel yr actores orau.
Yn ogystal mae’r rhaglenni The Aberfan Young Wives Club ac Aberfan – The Fight for Justice wedi derbyn pedwar enwebiad yr un.
Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar Hydref 8 dan arweiniad y DJ Huw Stephens.
Crynodeb o’r enwebiadau…
Actor gorau
Dyfan Dwyfor – Y Llyfrgell
Jack Parry Jones – Moon Dogs
Mark Lewis Jones – The Lighthouse
Michael Sheen – Aberfan: The Green Hollow
Actores orau
Carys Eleri – Parch
Eiry Thomas – Aberfan: The Green Hollow
Kimberley Nixon – Ordinary Lies
Mali Jones – 35 Diwrnod
Cyflwynydd gorau
Beti George – Beti and David: Lost for Words
Huw Edwards – Aberfan – The Fight for Justice
Iestyn Garlick – Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu
Richard Parks– Extreme Wales with Richard Parks
Awdur
Fflur Dafydd – Y Llyfrgell
James Button– The Corpse Series
Owen Sheers – Aberfan: The Green Hollow
Rhaglen adloniant
Cantata Memoria
City of the Unexpected
Taith Bryn Terfel – Gwlad y Gân
Y Salon
Newyddion a Materion Cyfoes
Cysgod Chernobyl – Y Byd ar Bedwar
Living with Dementia– Chris’s story
Michael Sheen – The Fight for my steel town
Wales at Six – 21/10/2016
Drama deledu
35 Diwrnod
Aberfan: The Green Hollow
Parch
Rhaglen blant
Deian a Loli
Llond Ceg
Teulu Ni