“Allwn i ddim gofyn am well athro na Gethin Thomas” oedd neges y digrifwr Steffan Evans wrth golwg360 ar ôl cael clywed am farwolaeth y digrifwr a’r cynhyrchydd Gethin Thomas.
Daeth y newyddion am ei farwolaeth yn 49 oed ddoe, ac yntau’n ffigwr allweddol yn natblygiad y byd comedi Cymraeg ers dechrau’r 1990au.
Cafodd ei fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac fe ddechreuodd gynnal sioeau stand-yp Cymraeg yng Nghaerdydd yn 1991 – gan ddylanwadu ar ddigrifwyr newydd y cyfnod, gan gynnwys Daniel Glyn, Gary Slaymaker ac eraill.
Roedd yn gyfarwyddwr ar gwmni teledu Zeitgeist Entertainment yn fwyaf diweddar, ac yn gyfrifol am gyfresi stand-yp newydd fel Gwerthu Allan.
Steffan Evans
Un o’r digrifwyr newydd y cafodd Gethin Thomas ddylanwad mawr arno yw Steffan Evans, sy’n wreiddiol o bentref Eglwyswrw yn Sir Benfro, ond sydd bellach yn byw ac yn trefnu nosweithiau stand-yp yng Nghaerdydd.
Ers dwy flynedd a hanner yn unig y bu Steffan Evans wrthi’n perfformio, ond yn y cyfnod hwnnw, mae ei yrfa wedi cael hwb sylweddol gan Gethin Thomas, fel yr eglurodd wrth golwg360.
“Des i mewn blwyddyn diwetha’ i weithio gyda Gethin, ac o’n i wedi gweld y dylanwad o’dd e wedi’i gael ar y sîn ers y nawdegau.
“O’dd e wedi rhoi platfform da iawn i fi ddechrau bant i weithio gyda’r digrifwyr ’ma fel Dan Thomas, Gary Slaymaker, Daniel Glyn a’r bois ’na. O’dd e’n brofiad gwych.”
Ysgrifennu a dweud jôcs
Mae Steffan Evans yn cyfaddef nad oedd e’n “gwybod sut i sgrifennu jôc” pan gyfarfu â Gethin Thomas am y tro cyntaf.
“O’n i’n gwybod shwt i ddweud jôc, ond do’n i ddim yn gwybod shwt i sgrifennu un.
“Wnaeth e ddysgu llawer i fi am strwythur y jôc a be’ sy’n effeithio arni, a shwt i gael mwy o hwyl mas o’r peth, ac i gael y gynulleidfa i wherthin.
“O’dd e wedi dysgu’r strwythur yn berffaith i fi, a fi’n ddiolchgar iawn.
“Mae’n grefft. Pan o’n i yn yr ysgol, o’n i’n mwynhau dweud jôcs a siarad mwy nag o’n i’n mwynhau dysgu unrhyw bwnc.
“Dynnais i ddim ’mlaen yn dda gyda phob athro. Ond wedd Gethin yn athro da. Allwn i ddim gofyn am well athro na Gethin.”
O dynnu peints i lwyfan Theatr Richard Burton
Yn ôl Steffan Evans, mae ymddangos mewn cyfresi fel Gwerthu Allan wedi rhoi hwb sylweddol i yrfa’r dyn ifanc oedd yn arfer gweithio y tu ôl i far i ennill ei fara menyn.
“O’n i’n rhan o sioe Gwerthu Allan, ac o’dd e’n rhywbeth hynod o dda i fi, i fynd o foi o’dd yn gweithio tu nôl bar ac yn tynnu peints i foi o’dd ddim yn tynnu peints ar nos Sadwrn ac o’dd e mas yn Theatr Richard Burton yn ffilmio i S4C.
“O’dd episôd fi yn y Christmas Radio Times, ac achos Gethin o’dd hwnna.
“Mae e wedi bod yn wych wrth ddod â phobol fel Elis James mewn i’r sîn Gymraeg.
“Mae pobol fel Daniel Glyn sy’ wedi bod yn neud e ers blynydde, ac maen nhw i gyd wedi bod yn gweithio gyda Gethin rywbryd neu’i gilydd.”