James 'Flex' Lewis (Llun cyhoeddusrwydd S4C)
Mae actor di-flewyn ar dafod yn dychwelyd i S4C ar ôl cyfnod i ffwrdd – ac ar ol beirniadu pobol sydd wedi tyfu’n gyfoethog iawn ar gefn y sianel.
Julian Lewis Jones ydi cyflwynydd rhaglen am y corffluniwr, James ‘Flex’ Lewis o Lanelli, sy’n cael ei ddisgrifio fel yr ‘Arnold Schwarzenegger Cymreig’.
Bydd y rhaglen yn sôn am ei lwyddiant yn ennill pencampwriaeth y 212 Olympia yn America bedair gwaith, a’i ymgais i’w hennill hi am y pumed tro.
“Schwarzenegger Cymru”
Dyma fydd rhaglen gyntaf Julian Lewis Jones ar y sianel ers rhaglen ‘Sgota bedair blynedd yn ôl, ac mae disgwyl i’r rhaglen daflu goleuni ar stori seren Gymreig sydd heb gael ei gydnabod gan Gymru.
Dyma’r tro cynta’ hefyd i Julian Lewis Jones gyflwyno ar y sgrin ers iddo ddenu ymateb mawr am feirniadu rhai o gynhyrchwyr “barus” S4C dros y blynyddoedd am elwa o’r sianel yn hytrach na’i hybu.
Ond doedd y cyflwynydd ddim yn awyddus i drafod hynny gyda golwg360 y tro hwn, gan ddewis canolbwyntio yn hytrach ar wrthrych y rhaglen ddogfen, Flex.
“’Dydi o’m yn gwneud sens bod Flex ddim wedi cael y gydnabyddiaeth,” meddai Julian Lewis Jones, “yn enwedig achos bod o’n Gymro o Lanelli… Dw i’n meddwl y gwnaiff hyn roi agoriad llygad i bobol, gan ei fod yn enw mawr ym myd corfflunio. Mae o’n superstar!
“Rydan ni’n rhoi insight i be’ sydd wedi’i neud o mor llwyddiannus, a pam dydan ni ddim yn gwybod amdano yng Nghymru. Mae’n drist. Mae o fel Arnold Schwarzenegger i Gymru.”
“Torri tir newydd”
Mae Julian Lewis Jones yn “angerddol” bod angen “pynciau gwahanol” i’r sianel ac mae wedi canmol S4C am “dorri tir newydd” trwy gomisiynu rhaglenni fel Y Ffeit.
“Dw i wrth fy modd yn gweld bod S4C wedi cymryd y cam yna, a nhw yw’r unig sianel sydd ddim yn pay per view sydd yn darlledu MMA. Ac mae hynna’n beth mawr, dydi BBC ddim yn ei wneud o, dydi ITV ddim yn ei wneud o, ac mae S4C mewn ffordd wedi torri tir newydd trwy wneud hynna.
“Mae’n rhaid i ni fod yn fwy eang, rhaid i ni fod yn fwy cyfredol ac mae’n rhaid i ni adlewyrchu hynna yn y pynciau rydym ni’n neud rhaglenni amdan. Dw i wrth fy modd bod rhaglenni fel hyn yn cael eu comisiynu.”
Flex Lewis: Schwarzenegger Cymru, Ebrill 21, 9.30yh