Euryn Ogwen Williams, enillydd cyntaf Gwobr John Hefin am Gyfraniad Oes
Mae Euryn Ogwen Williams wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “ostyngedig iawn” ar ôl derbyn gwobr er cof am ei ffrind agos John Hefin yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.
Dyma’r tro cyntaf i’r wobr Cyfraniad Oes gael ei rhoi yn enw John Hefin, a fu farw yn 2012.
Daeth John Hefin yn gyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd gyda BBC Cymru yn y 1960au ac roedd yn allweddol wrth sefydlu’r opera sebon Pobol y Cwm yn 1974.
Roedd yn gyd-awdur ac yn gynhyrchydd y ffilm gomedi Grand Slam yn 1978, ac yn gyfarwyddwr y gyfres ddrama The Life and Times of David Lloyd George yn 1981. Treuliodd gyfnod yn Bennaeth Drama BBC Cymru cyn mynd yn ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
Daeth yn gyfarwyddwr Ffilm Cymru yn 1988, gan gomisiynu ffilmiau annibynnol ar gyfer S4C. Roedd hefyd yn gadeirydd Comisiwn Ffilm Cymru a’r cyfnodolyn Cyfrwng.
Yn 2012, derbyniodd wobr Cyfraniad Arbennig gan BAFTA Cymru i gydnabod ei gyfraniad i fyd y ddrama deledu yng Nghymru.
Euryn Ogwen Williams
Cafodd Euryn Ogwen Williams ei eni ym Mhenmachno cyn i’r teulu symud i gyffiniau’r Wyddgrug, lle’r aeth i Ysgol Alun ac yna i Brifysgol Bangor i astudio Athroniaeth a Seicoleg.
Ar ôl mentro i fyd y cyfryngau, daeth yn Gyfarwyddwr Rhaglenni TWW cyn symud i gwmni Harlech yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd.
Yn y pen draw, penderfynodd fynd i weithio ar ei liwt ei hun gan weithio ar raglenni i’r BBC a HTV.
Ar ôl i S4C gael ei sefydlu yn 1982, daeth yn Bennaeth Rhaglenni’r sianel cyn dod yn Ddirprwy Brif Weithredwr yn 1988.
Fe fu’n gweithio am gyfnod yn yr Alban ac Iwerddon, ac roedd yn gynghorydd i S4C ar ddechrau’r oes ddigidol. Mae’n parhau i fod yn gynghorydd i Boom Cymru.
Mae’n briod â Jenny Ogwen ac yn dad i ddau o blant, Sara a’r cyflwynydd teledu Rhodri Ogwen Williams.
Ar ôl derbyn y wobr gan gyn-Bennaeth Adran y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus S4C a HTV, a ffrind i’r ddau, David Meredith, dywedodd Euryn Ogwen Williams wrth Golwg360: “O’n i’n teimlo’n ostyngedig iawn yn edrych ar y pethau neis oedd pobol yn deud o’n i wedi gwneud.
“Ond dwi ddim yn un yn bersonol sydd yn edrych yn ôl. Dwi ddim yn mynd yn ôl i aduniadau a rhyw bethau felly yn y coleg.
“Rhyw fyw yn y funud ydw i. Mae’n debyg mai fel’na fydda i.”
Gwobr sy’n “deud lot am John”
Ond fe ddywedodd fod “y wobr yn deud lot am John a’i hoffter o’r ŵyl arbennig yma – gŵyl hollol naturiol ac un ag egni a brwdfrydedd, yn benderfynol o wneud iddi weithio”.
“Dwi’n meddwl fyddai John yn reit hapus. Mi fydde fo’n wên, mi fydde fo’n hapus iawn hefyd bod ei ffrind o ddyddie ysgol bach, David Meredith yna i gyflwyno’r wobr.
“Felly mi fydde fo’n teimlo’n hapus ynglyn â Dafydd a finne yma hefo’n gilydd ac yn meddwl amdano fo ac yn cofio’i gyfraniad enfawr o.”
Gwobr John Hefin am Ffilm Fer yn y Gymraeg
Yn ogystal â gwobrwyo cyfraniad arbennig unigolyn, cafodd ail wobr ei rhoi yn enw John Hefin i gydnabod y Ffilm Fer Orau yn y Gymraeg.
Enillydd y wobr eleni oedd Nain Stori Wir gan Viviane Peoc’h ar gyfer ffilm pum munud o hyd sy’n adrodd stori nain a’i hwyres ar ffurf pypedau.
Mae’r ddwy yn deall ei gilydd heb fod angen siarad, ond mae’r nain yn cael strôc ac yn cael ei pharlysu, ac yn methu adnabod ei phlant ei hun.
Mae’r wyres hithau mewn damwain car yn ddiweddarach.
Mae Nain Stori Wir yn cael ei disgrifio fel “stori wir a llawn tosturi”.
Wrth drafod pwysigrwydd y wobr hon yn enw John Hefin, dywedodd Euryn Ogwen Williams: “Oedd o [John Hefin] eisie sicrhau bod ’na ffilm Gymraeg achos mae’n gystadleuaeth ryngwladol.
“Beth sydd yn ddiddorol, wrth gwrs, ydy bod safon y ffilmiau Cymraeg yn uchel achos ’dan ni’n arbennig o dda erbyn hyn am greu ffilmiau.
“Ond mae hefyd yn rhoi llwyfan rhyngwladol i’n gwlad ein hunain achos bod ’na gymaint o wahanol wledydd yma wedi cystadlu.
“Felly mae’r wobr yma gen John yn deud lot amdano fo a’r ŵyl yma roedd o mor hoff ohoni.”
Er i’r ffilm ‘By Any Name’ gan gwmni Tanabi o Abertawe gael ei henwebu ar gyfer Gwobr Ffilm Nodwedd Orau, aeth y wobr yn y pen draw i ‘Granny of the Dead’.
Stori: Alun Rhys Chivers