Mae angen dathlu’r gymuned LHDTC+ ar y teledu, meddai Comisiynydd Cynorthwyol Arlwy Ar-lein S4C.

Yn ôl Guto Rhun, mae hi’n hawdd meddwl bod hawliau pobol LHDTC+ wedi dod yn eu blaenau, ac er bod cynnydd wedi bod, mae yna “lot o gasineb dal allan yna”.

Byddai hi’n hawdd iawn dychwelyd yn ôl at “sut oedd pethau’n arfer bod”, meddai Guto Rhun, gan ychwanegu bod rhoi platfform i’r gymuned LHDTC+ ar S4C a Hansh yn bwysicach fyth yn sgil hynny.

Fe wnaeth llofruddiaeth homoffobig Gary Jenkins yng Nghaerdydd ein hatgoffa o’r casineb sy’n bodoli tuag at bobol hoyw bob dydd, meddai elusen Stonewall.

Bu farw’r tad i ddau, a oedd yn 54 oed, yn dilyn ymosodiad arno gan dri o bobol y llynedd, ac roedd modd clywed sylwadau homoffobig yn cael eu hanelu tuag ato mewn clip fideo wrth iddyn nhw ymosod arno.

Mae sicrhau bod S4C, a’r cyfryngau yn gyffredinol, yn cynrychioli pawb, gan gynnwys y gymuned LHDTC+, yn “bwysig iawn”, meddai Guto Rhun wrth golwg360.

“Mae S4C i bawb, ac mae o’n hynod o bwysig ein bod ni’n adlewyrchu hynny, a rhoi cyfleoedd i bawb,” meddai.

“Dw i’n rili brwdfrydig dros roi platfform i bobol o’r gymuned LGBT+, mae hwnna wedi bod yn rhywbeth rili pwysig i fi drwy gydol fy ngyrfa.

“Os wyt ti’n cael y fraint o wneud y math yma o waith, mae’n bwysig ein bod ni yn agored iawn i weithio efo pawb a bod pawb yn cael eu hadlewyrchu ar y sgrin.

“Dw i’n ffodus iawn yn Hansh ein bod ni’n gwneud y gwaith yma.”

“Dathlu’r gymuned”

Er bod gwelliannau wedi bod o ran hawliau pobol LHDTC+ yn yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae “pethau erchyll” yn dal i ddigwydd bob dydd, a throseddau casineb dal yn amlwg, meddai Guto Rhun.

Mae ystadegau diweddar gan yr heddlu yn dangos bod troseddau casineb homoffobig a thrawsffobig yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu’n sydyn ar ôl i’r cyfnodau clo ddod i ben.

“Dw i’n credu ei bod hi’n hawdd iawn i ni regressio’n ôl i sut oedd pethau’n arfer bod,” eglurodd.

“Mae yna lot o gasineb dal allan yna, lot o drais dal i ddigwydd, mae be sy’n digwydd i’r gymuned trans ar hyn o bryd yn erchyll.

“Mae hi’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r platfform yna, ac ein bod ni’n dathlu’r gymuned.

“Mae hi’n gymuned dw i’n rhan ohoni, felly dw i’n gweld hi’n bwysig, ond ar dop hynna dw i eisiau dweud bod o ddim bwys fy mod i’n rhan o’r gymuned achos rydyn ni eisiau adlewyrchu pawb o unrhyw gefndir, a’u dathlu nhw ar S4C a Hansh.”

Llofruddiaeth homoffobig Dr Gary Jenkins yn ein hatgoffa o’r casineb at bobol hoyw “am fodoli”

Stonewall Cymru’n ymateb i sylwadau’r erlyniad ar ôl i lys gael tri o bobol yn euog